Prosiectau a Ariennir gan Loteri’r Staff
Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff ar draws Caerdydd a’r Fro trwy greu enillwyr newydd bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, sydd wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £1.5 miliwn i helpu i gefnogi prosiectau niferus ar draws y BIP, sydd o fudd i gleifion, staff ac ymwelwyr.
Dyma rai o’r ceisiadau anhygoel i Banel Cynigion Loteri’r Staff y dyfarnwyd Arian Loteri’r Staff iddynt i wneud pethau’n well ar draws BIP Caerdydd a’r Fro.
Celf ar gyfer SARC – Cam 2
Yng nghyfarfod diweddar Panel Cynigion Loteri’r Staff cymeradwywyd Cam 2 y prosiect ‘Celf ar gyfer SARC’ i osod finylau wal yn Ardal Bediatrig, Ynys Saff. Yn dilyn datblygiadau rhanbarthol SARC, mae Ynys Saff eisoes yn Ganolfan Bediatrig yn Ne-ddwyrain Cymru ar gyfer cleientiaid o dan 14 oed sydd wedi profi ymosodiad rhywiol acíwt.
Llecyn Lles Staff Caerdydd a’r Fro
Yn ddiweddar, cefnogodd Panel Cynigion Loteri’r Staff brosiect i wella amgylchedd y llecyn lles staff sydd newydd ei greu yn Llyfrgell Cochrane yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Gwelliannau i’r Amgylchedd yn y Clinig Cyn Geni – Ysbyty Athrofaol Llandochau
Yn ddiweddar, mae tîm Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi prosiect i wella amgylchedd y Clinig Cyn Geni yn Ysbyty Athrofaol Llandochau lle mae’r Clinig Enfys hefyd wedi’i leoli.
Llinell Amser Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Trwy gyllid gan Loteri’r Staff yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o greu llinell amser i adlewyrchu 200 mlynedd o ofal iechyd wedi’i drefnu yn cael ei ddarparu yn ardal De a Dwyrain Caerdydd, sydd bellach yn cael ei arddangos yn y coridor Therapïau yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Prosiect Lles yr Haf Tîm Nyrsio Ardal Penarth
Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi aelodau Tîm Nyrsio Ardal Penarth gyda’u cais ar gyfer Prosiect Lles yr Haf i ychwanegu man eistedd newydd i staff ymlacio a myfyrio yn ystod eu hamser cinio.
Diwrnod Mabolgampau Haf yr Uned Famolaeth gyda Chefnogaeth Panel Cynigion Loteri’r Staff
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i ariannu offer chwaraeon ar gyfer Diwrnod Mabolgampau Haf yr Uned Famolaeth a drefnwyd gan yr Uned Obstetreg. Mae diwylliant y gweithle yn yr Uned Famolaeth yn brif flaenoriaeth i’r bwrdd clinigol, ac roedd trefnu Diwrnod Mabolgampau Haf yr Uned Famolaeth yn ffordd o ddod â’r Uned at ei gilydd trwy gymdeithasu a gweithgareddau hwyliog.
Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn wedi’i drawsnewid gyda gwaith celf ysgogiadol
Yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd i brosiect a ariennir ar y cyd gan Banel Cynigion Loteri’r Staff a Chronfa Waddol Morgan i drawsnewid waliau Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, er mwyn ei gwneud yn ofod mwy bywiog a chroesawgar.
Parti Lansio Gardd Gerddorol Therapïau MHSOP
Gyda chyllid a roddwyd gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, mae gardd Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) wedi ei thrawsnewid i fod yn ofod atyniadol a rhyngweithiol i gleifion ei mwynhau a’i defnyddio fel rhan o’u therapi.
Panel Cynigion Loteri’r Staff yn Cefnogi Digwyddiad Cydnabod Staff y Gwasanaethau Arbenigol
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i gefnogi Digwyddiad Cydnabod Staff y Gwasanaethau Arbenigol, a ohiriwyd am flwyddyn oherwydd pandemig COVID-19. Defnyddiwyd yr arian i brynu gwobrau, addurniadau a lluniaeth ar gyfer y digwyddiad, gan gefnogi staff y Gwasanaethau Arbenigol yn uniongyrchol drwy ddangos gwerthfawrogiad o’u gwaith caled a’u hymroddiad.
Hufen Iâ Am Ddim yn Helpu Staff i Guro’r Gwres
I ddiolch i staff ar safleoedd ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a fu’n gorfod gweithio yn ystod y tywydd poeth diweddar, gwnaeth Panel Cynigion Loteri’r Staff ariannu faniau hufen iâ i ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Rhoddwyd Tip Tops hefyd i staff yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant.
Panel Cynigion Loteri’r Staff yn Cefnogi Prosiect i Ddarparu Seddi Ychwanegol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi cais i osod tair sedd blygu ar hyd coridor hir Ysbyty Brenhinol Caerdydd, er mwyn ceisio gwella profiad cleifion, staff ac ymwelwyr.
Panel Cynigion Loteri’r Staff yn Cefnogi Cais i Ddarparu Mainc y Tu Allan i Staff
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i ddarparu mainc gardd newydd i’r staff yng nghanolfan alwadau gwasanaethau dydd y BIP sydd wedi’i lleoli yn hen ganolfan hamdden y Barri, a fydd yn caniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn yr awyr agored yn ystod eu hamser egwyl.
Prosiect Gardd Gerddorol Therapïau gyda Chefnogaeth Loteri’r Staff
Dechreuodd Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (MHSOP) brosiect i drawsnewid eu gardd cleifion mewnol yn ardal ddeniadol, ysgogol ac ymlaciol y byddai cleifion yn ei mwynhau ac yn ei defnyddio fel rhan o’u therapi. Gyda chyllid wedi’i gytuno gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, roedd y tîm yn gallu prynu offer cerdd awyr agored, wedi’i leoli mewn mannau penodol yn yr ardd gan ychwanegu profiad rhyngweithiol ledled yr ardal.
Diwrnod Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau
Ar 14 Mai, mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau, ac rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi ein cydweithwyr o’r tîm theatr llawdriniaethau. Mae Panel Cynigion Loteri’r. Staff wedi cytuno i roi arian i B3 yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gynnal dathliad i nodi’r diwrnod arbennig hwn.
Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys
Ar draws ein Cyfarwyddiaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol a Thrawma ac Orthopedeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a Chyfarwyddiaethau Meddygaeth yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant, mae ein Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cytuno i ariannu basgedi ffrwythau a dewisiadau amgen iach i’n staff nyrsio i helpu gyda’u hiechyd a’u lles.
Baddonau Cwyr newydd ar gyfer Gwasanaeth Rhewmatoleg Bediatrig Cymru
Mae baddonau paraffin wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion sy’n dioddef o gyflyrau rhewmatolegol drwy leddfu poen ac anystwythder, a gwella symudedd. Bellach gall cleifion ddefnyddio’r baddonau cwyr newydd i wella eu canlyniadau therapiwtig o ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a chefnogi’r gwaith o ddatblygu eu gofal a lleddfu eu symptomau a’u poen.
Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig
Eleni mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi’r adran Obstetreg a Gynecoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda’i Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff drwy ddarparu arian ar gyfer pum basged i’r enillwyr.
Panel Cynigion Loteri’r Staff yn cefnogi Prosiect The Dementia Darnings
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cefnogi prosiect i wahodd yr artist Jenni Dutton i arddangos ‘The Dementia Darnings’ yn Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac i’w merch, Briony Goffin, gyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol yn ystod yr arddangosfa.
Darparu Offer Dysffagia Arbenigol i’r Cleifion Therapi Iaith a Lleferydd
Yn ddiweddar, cefnogodd Panel Cynigion Loteri’r Staff brosiect i ddarparu cwpanau a gwellt arbenigol i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cael trafferth gyda dysffagia (nam llyncu).
Cardiau post o ddiolch wedi’u rhoi i staff a chefnogwyr Ysbyty Brenhinol Caerdydd i ddathlu canmlwyddiant y Capel
Wrth i’r Capel yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd nodi ei ganmlwyddiant, mae Loteri’r Staff wedi rhoi arian er mwyn i staff a chefnogwyr CRI dderbyn cerdyn o ddiolch am eu cyfraniad i’r ysbyty a’i gymuned.
Dodrefn Awyr Agored ar gyfer Gardd Gaeedig Ysbyty Dewi Sant
Cefnogodd Panel Cynigion Loteri’r Staff brosiect i ddarparu seddi awyr agored yng ngardd gaeedig Ysbyty Dewi Sant. Mae llawer o staff eisoes wedi dweud na allant aros i ddefnyddio’r gofod a’r dodrefn ar gyfer eu seibiannau i wella eu lles.
Gemau Tecstio i Gleifion
Gyda chefnogaeth Cronfa Loteri’r Staff yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae’n bleser gan dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles roi prosiect gemau cyntaf Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ar waith gyda’r Dylunydd Modwlar, Jordan Draper.