Rhoi

Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i gefnogi Digwyddiad Cydnabod Staff y Gwasanaethau Arbenigol, a ohiriwyd am flwyddyn oherwydd pandemig COVID-19.

Defnyddiwyd yr arian i brynu gwobrau, addurniadau a lluniaeth ar gyfer y digwyddiad, gan gefnogi staff y Gwasanaethau Arbenigol yn uniongyrchol drwy ddangos gwerthfawrogiad o’u gwaith caled a’u hymroddiad.

Gan fod y digwyddiad wedi’i ohirio oherwydd y pandemig, sicrhaodd y trefnwyr ei fod yn well ac ar raddfa fwy gan ddefnyddio arian Loteri’r Staff.

Dywedodd Natasha Bevan, Cynorthwyydd Personol y Gwasanaethau Arbenigol: “Yn sgil y sefyllfa barhaus o ran y pandemig, mae’n bwysicach fyth sicrhau bod y staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gymeradwyo’r cais, gan ei fod yn dangos gwerthfawrogiad o’r staff gweithgar, sydd yn ei dro yn cefnogi eu lles cyffredinol.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.