Rhoi

Gyda chyllid a roddwyd gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, mae gardd Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) wedi ei thrawsnewid i fod yn ofod atyniadol a rhyngweithiol i gleifion ei mwynhau a’i defnyddio fel rhan o’u therapi.

Defnyddiwyd y cyllid i brynu offer cerdd awyr agored, wedi’i leoli mewn mannau penodol yn yr ardd gan roi profiad rhyngweithiol ledled yr ardal. Bydd yr offerynnau yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles cleifion, gan eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol ac ymyriadau synhwyraidd awyr agored, hyrwyddo annibyniaeth, datblygu arferion dyddiol, gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles. 

Ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, dathlodd wardiau MHSOP lansiad swyddogol yr ardal awyr agored newydd gyda pharti gardd. Mwynhaodd cleifion a staff luniaeth, gweithgareddau ac adloniant drwy gydol y dydd. Mae’r tîm wrth eu boddau i weld yr offer newydd yn cael ei ddefnyddio’n llawn, a gweld sut mae ychwanegu’r offerynnau cerdd yn effeithio’n gadarnhaol ar y cleifion.

I ddarllen mwy am y cais ac i gael gwybod sut y gallwch wneud cais am arian Loteri’r Staff, ewch i: https://healthcharity.wales/therapies-musical-garden/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.