Rhoi

Dechreuodd Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (MHSOP) brosiect i drawsnewid eu gardd cleifion mewnol yn ardal ddeniadol, ysgogol ac ymlaciol y byddai cleifion yn ei mwynhau ac yn ei defnyddio fel rhan o’u therapi. 

Gyda chyllid wedi’i gytuno gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, roedd y tîm yn gallu prynu offer cerdd awyr agored, wedi’i leoli mewn mannau penodol yn yr ardd gan ychwanegu profiad rhyngweithiol ledled yr ardal. Bydd yr offerynnau yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles cleifion, gan eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol ac ymyriadau synhwyraidd awyr agored, hyrwyddo annibyniaeth, datblygu arferion dyddiol, gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles.  

Trwy ddarparu ysgogiad synhwyraidd, bydd y gofod awyr agored gwell yn cael effaith benodol hynod gadarnhaol ar gleifion â dementia, gan y profwyd “bod pobl â dementia sy’n treulio amser mewn gardd â llai o aflonyddwch meddwl” (Wear et al, 2014). Trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau grŵp, bydd y prosiect hefyd yn gwella ansawdd bywyd ac yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.

Dywedodd Jane Finch, Therapydd Galwedigaethol MHSOP: ‘Roedd 2020/21 yn arbennig o anodd i’n cleifion gan fod gan y wardiau bolisi dim ymwelwyr oherwydd cyfyngiadau ymwelwyr, ac nid oeddent wedi gallu cael mynediad i fan awyr agored mor aml ag y byddem wedi dymuno. Nawr bod y cyfyngiadau wedi llacio, rydym yn awyddus i’n cleifion brofi manteision bod yn yr awyr agored unwaith eto, gan ein bod yn ymwybodol o’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n hybu’r defnydd o weithgareddau awyr agored oherwydd y llu o fanteision y gall eu cael ar iechyd meddwl a lles unigolyn.’

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff wrth eu bodd yn cefnogi’r prosiect gan y bydd yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar eu hiechyd a’u lles, ac yn eu helpu i wella.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.