Ffafrau Priodas

Cefnogwch yr Elusen Iechyd ar eich diwrnod arbennig a helpu i wneud gwahaniaeth i’n cleifion a’u teuluoedd.

Mae ein ffafrau priodas yn ffordd hyfryd o ddiolch i’ch gwesteion a chodi arian i’r Elusen Iechyd.

Dewiswch fathodynnau pin yr Elusen Iechyd, y Prosiect Lles neu Ganolfan y Fron, i’w rhoi ar gardiau arbennig, fel y gwelwch isod.

Awgrymir rhodd o £2 y bathodyn, £1 y cerdyn, neu ddim ond £2.50 pan fyddwch yn prynu’r ddau.

Er mwyn prynu neu gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk