Codi arian

Ddylwn i gysylltu â swyddfa’r Elusen os hoffwn godi arian?

Os gwelwch yn dda. Rydym yma i’ch cefnogi chi. Rydym yn awyddus iawn i’ch helpu i hyrwyddo eich digwyddiad neu weithgaredd a rhannu eich llwyddiant i ysbrydoli pobl eraill. Mae’r Elusen Iechyd yn dibynnu ar roddion a chodi arian er mwyn gwneud gwahaniaeth i brofiadau cleifion o’n gwasanaethau.

Beth alla’ i ei ddefnyddio i helpu i godi arian?

Mae gennym amrywiaeth o ddeunyddiau codi arian ar gael i chi a gallwn roi cyngor defnyddiol i’ch cefnogi chi a sicrhau bod eich digwyddiad codi arian yn un llwyddiannus. Os hoffech godi arian ar ran yr Elusen Iechyd, cysylltwch â ni i gael ffurflen caniatâd i godi arian.

Ewch i’r adran Adnoddau i gael posteri gwag a ffurflenni noddi y gallwch eu defnyddio.

Beth mae’r Elusen ei angen gennyf fi?

  • Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi cyn i chi ddechrau codi arian er mwyn i ni sicrhau bod popeth sydd ei angen arnoch gennych chi. Gallwn gofrestru eich digwyddiad ar ein calendr a helpu gyda’r gwaith hyrwyddo. Anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk
  • Cofiwch dynnu lluniau o’ch digwyddiad codi arian os yw hynny’n bosibl, a chofiwch gael caniatâd pawb sydd yn y lluniau.
  • Os hoffech i rywun o’r Elusen Iechyd ddod i’ch digwyddiad neu i ddweud gair neu ddau, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i’ch cefnogi chi.
  • Rhowch wybod i ni sut aeth pethau, pwy oedd yn rhan o’r digwyddiad ac a ydych chi’n bwriadu gwneud hynny eto.

Raffl/Loteri

Mae’r un rheolau yn berthnasol i unrhyw raffl neu loteri (mae diffiniad cyfreithiol y ddau yr un fath). Ni chaiff unigolion o dan 16 oed brynu tocynnau.

  • Loterïau preifat – Nid oes angen trwydded os yw raffl yn cael ei chynnal yn y gweithle neu mewn clwb, ar yr amod mai dim ond yn y lleoliad y mae’r tocynnau’n cael eu gwerthu ac i aelodau yn unig.
  • Loterïau bychan – Cewch werthu tocynnau raffl mewn digwyddiad cymdeithasol, ond rhaid i’r tocynnau gael eu gwerthu a’u tynnu yn y digwyddiad.
  • Loterïau cyhoeddus – Rhaid i raffl sydd ar agor i’r cyhoedd neu sy’n cael ei chynnal dros gyfnod o amser fod wedi’i thrwyddedu. Cysylltwch â’r elusen os hoffech gynnal raffl o’r fath.

Cofiwch: NI ddylid cynnal raffls ar wardiau ac ni ddylid gwerthu tocynnau raffl gyda thocynnau ystafell gotiau os bydd y tocynnau’n cael eu tynnu ar ddyddiad diweddarach. Gall tîm yr elusen ddarparu tocynnau raffl swyddogol dim ond i chi ofyn am rai. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw raffl yr hoffech ei chynnal.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld canllawiau‘r Comisiwn Hapchwarae.

Mae’r ddolen yn mynd â chi i http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/home i weld y canllawiau.

Mae angen cronfa benodol yn yr adran ar gyfer rhoi.

Cael gwobrau raffl

Os gwelwch yn dda, peidiwch â chysylltu â chwmnïau yn gofyn am wobrau raffl oni bai fod gennych chi gysylltiad personol. Yna, cofiwch roi gwybod i ni ar gyfer ein cofnodion. Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro osgoi gofyn i’r un cwmnïau am wobrau drwy’r amser. Felly os hoffech gael gwobr ar gyfer raffl, byddem yn fwy na bodlon anfon llythyr ar eich rhan, dim ond i chi roi’r manylion i ni.

JustGiving

Un o’r ffyrdd hawsaf o hyrwyddo eich ymgyrch codi arian yw drwy sefydlu tudalen ar JustGiving. Fel hyn bydd pawb sy’n eich cefnogi yn gallu rhoi ar-lein. Mae eich manylion yn ddiogel; ni fydd JustGiving yn gwerthu eich manylion nac yn anfon negeseuon e-bost digroeso. Pan fyddwch yn derbyn rhoddion, bydd yr arian yn cael ei anfon yn syth i’n helusen. Cofiwch sicrhau bod Cymorth Rhodd yn cael ei hawlio ar bob rhodd cymwys gan drethdalwyr yn y DU.

Ewch i wefan JustGiving a chofiwch roi gwybod i ni os byddwch yn sefydlu tudalen.

Digwyddiadau sy’n cael eu noddi

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:

  • Pan fyddwch wedi penderfynu ar ddigwyddiad, cofiwch gysylltu â ni er mwyn i ni ei awdurdodi. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael ffurflenni noddi swyddogol i’w defnyddio yn ogystal â llythyr gennym, a allai fod yn ddefnyddiol os ydych am ofyn am nawdd yn yr ysgol neu’r gwaith.
  • Mae’n anghyfreithlon mynd i gasglu o dŷ i dŷ heb drwydded iawn. Peidiwch â chasglu arian ar y stryd nac mewn man cyhoeddus arall heb gael trwydded gan eich awdurdod lleol neu’r heddlu. Rydym yn argymell eich bod yn trefnu digwyddiad codi arian yn hytrach na chasglu arian. Os ydych yn bwriadu casglu arian yn y digwyddiad, gall yr adran codi arian roi bwcedi casglu arian i chi.
  • Er mwyn ei gwneud hi’n haws casglu arian nawdd, nodwch yn glir ar y ffurflen erbyn pa ddyddiad rydych chi am dderbyn yr arian. Hefyd, sicrhewch eich bod yn casglu’r arian nawdd yn fuan ar ôl y digwyddiad neu hyd yn oed ymlaen llaw. (Os na fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal neu os na fyddwch chi’n cymryd rhan am unrhyw reswm, rhaid i chi roi gwybod i’ch noddwyr a chynnig rhoi’r arian yn ôl iddynt, oni bai mai cael ei ohirio mae eich digwyddiad).
  • Ffordd dda o gynnal digwyddiad noddi yw mewn grŵp, oherwydd byddwch yn cymell eich gilydd a bydd gennych fwy o adnoddau. Mae’n bosibl y byddai digwyddiad digon mawr yn denu sylw gan y cyfryngau hefyd.
  • Peidiwch â bod ofn mynd amdani ar eich pen eich hun. Mae colli pwysau, taith gerdded neu daith feics noddedig yn bethau rhwydd iawn i’w trefnu, a phan fyddwch wedi cael pobl i’ch noddi, bydd gennych gymhelliant i fynd amdani.

Casglu

Ni chaiff unrhyw un o dan 16 oed gasglu arian (neu 18 oed yn Llundain). Mae angen caniatâd a thrwyddedau i gasglu arian yn gyhoeddus, yn dibynnu ar y lleoliad. Bydd yn rhaid i chi gael trwydded i gasglu ar y stryd neu o ddrws i ddrws. Mae angen caniatâd i gasglu ar eiddo preifat. Cysylltwch â’r Elusen Iechyd os hoffech gasglu arian.