Rhoi

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
sy’n cefnogi pob ward, adran, ysbyty, gwasanaeth cymunedol a
maes ymchwil ledled Caerdydd a Bro
Morgannwg.

Mae’r Elusen Iechyd yn rheoli dros 300 o gronfeydd at ddibenion cyfarpar, ymchwil, triniaeth a gofal cleifion er mwyn i’r rhoddion allu cefnogi gwaith a phrosiectau sy’n ychwanegol at yr hyn y mae cyllid arferol y GIG yn ei ddarparu. Mae darparu ymchwil a chyfarpar o’r radd flaenaf wrth galon ein helusen.

Hefyd, gall creu amgylchedd mwy cyfforddus a chroesawgar mewn ysbytai wneud byd o wahaniaeth i gleifion a’u teuluoedd. Mae’r Elusen Iechyd yn darparu celf a cherddoriaeth yn yr ysbytai, yn gyfrifol am brosiectau adnewyddu a rhai prosiectau cwnsela arbenigol hefyd, er mwyn gwella’r profiad i’r cleifion. Mae nifer o gefnogwyr yr Elusen Iechyd yn dymuno diolch i staff yr ysbyty sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt hwy a’u teuluoedd. Diolch i’r rhoddion hyn, rydym yn gallu gwneud ardaloedd yr ysbytai yn fwy cyfforddus i staff, gyda mannau gorffwys, cyfleusterau diodydd a gwelliannau syml eraill. Mae rhywfaint o’r arian hefyd yn cael ei ddefnyddio er lles gweithwyr ac i roi rhagor o gymorth i’n staff clinigol ymroddedig.

Y llynedd, fe wnaethoch chi helpu i godi £2 filiwn o bunnau
i helpu i wella pethau!

£0
Ein Berllan
£0
Apêl Prop
£0
Apêl Canolfan y Fron

Seren yw masgot Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae hi’n rhoi gwên ar wynebau ein cleifion, ymwelwyr, staff ac aelodau’r gymuned leol, ble bynnag bydd hi’n mynd.

Mae Seren yn ymfalchïo mewn cadw’n heini ac mae hi wrth ei bodd yn rhedeg. Mae hi i’w gweld yn aml iawn yn Her Gwthio Gwely Bae Caerdydd neu’n cymryd rhan yn ras masgotiaid Gŵyl Redeg Hanner Marathon Caerdydd, lle’r oedd hi’n fuddugol yn 2018 ac yn ail agos iawn yn 2019 i fasgot Gleision Caerdydd, Bruiser Bear.

Mae Seren hefyd i’w gweld o gwmpas yn y gymuned leol, yn treulio amser mewn grwpiau Sgowtiaid ac mewn digwyddiadau lleol. Mae hi’n seren fach gymdeithasol iawn. Cofiwch roi pawen lawen iddi pan welwch chi hi!

Cwrdd â’r Tîm

Jayne Catherall

Jayne Catherall

Uwch Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Private: Simone Joslyn

Private: Simone Joslyn

Pennaeth yr Elusen Iechyd a’r Celfyddydau

Barbara John

Barbara John

Rheolwr Gweithredol/Busnes

Lucie Barrett

Lucie Barrett

Uwch Swyddog Codi Arian

Noddwyr yr Elusen Iechyd

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.