Rhoi

I ddechrau, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr! Fel hyn gallwch gael y newyddion diweddaraf am ein digwyddiadau mawr: Hanner Marathon Caerdydd
, Treiathalon Bae Caerdydd, a’n nosweithiau elusennol bendigedig! P’un ai oes gennych chi ddiddordeb mewn herio eich hun
neu os ydych chi wrth eich bodd yn dawnsio, bydd gennym ni rywbeth at eich dant.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.