Rhoi

Mae Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn trin rhwng 450 a 500 o gleifion canser y fron newydd bob blwyddyn; ar gyfer archwiliadau cychwynnol, triniaethau dilynol a chleifion sy'n dychwelyd i gael canlyniadau.

Mewn cyfnod pan all cleifion fod yn bryderus iawn, mae cael gwasanaeth syml lle mae popeth o dan un to yn gwneud byd o wahaniaeth medden nhw wrthym ni.

Llwyddodd Apêl Canolfan y Fron i godi arian i adeiladu’r Ganolfan, sydd wedi’i chynllunio o amgylch anghenion ein cleifion.

Mae’r Ganolfan newydd yn cynnwys clinigau cleifion allanol a gwasanaethau radioleg diagnosteg gyda’i gilydd. Gall cleifion gael mamogram neu archwiliad uwchsain a chael eu canlyniadau ar yr un diwrnod; yna os bydd angen cynnal rhagor o archwiliadau, gellir gwneud hynny yn y Ganolfan.

Mae rhoddion i Apêl Canolfan y Fron yn cael eu defnyddio i ddarparu bras arbennig i gleifion sydd wedi cael masectomi neu lawdriniaeth adluniol ac i gynnig therapïau cyflenwol, nosweithiau pampro, nosweithiau dillad isaf a sesiynau hyder i fenywod sydd wedi cael triniaeth ar gyfer canser y fron.

Mae rhoddion hefyd wedi talu am ffisiotherapydd ar gyfer sesiynau un i un fel gwasanaeth ymarfer ar bresgripsiwn, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru, a champfa ar gyfer ein cleifion sy’n cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron.

Gallwch gyfrannu at Apêl Canolfan y Fron drwy JustGiving, neu drwy glicio ar y botwm Rhoi ar ein gwefan.

Rhoi

Gweld ein hapeliadau eraill

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.