Syniadau codi arian

Rydym mor ddiolchgar i’r bobl sydd wedi cynnal eu digwyddiadau eu hunain i godi arian ar gyfer ein hysbytai, ein wardiau a’n hadrannau. Maent wedi gwneud pob math o bethau – o Bartïon Bendigedig llawer mwy cyfareddol na’r Oscars hyd yn oed, i werthu cacennau, dringo mynyddoedd, plymio o’r awyr a gwyliau cerddoriaeth bychan.

Os oes gennych chi syniad ar gyfer sut hoffech godi arian, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom. Byddem wrth ein bodd yn eich cefnogi chi ac yn eich helpu chi mewn unrhyw ffordd. Cysylltwch â ni yma.

I gael syniadau, cyngor ac adnoddau i sicrhau bod eich digwyddiad codi arian yn llwyddiannus, llwythwch eich pecyn i lawr yma – dolen i’r pecyn codi arian

Os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad, cymryd rhan mewn her neu os hoffech gasglu arian i ni, rhowch wybod i ni a gallwn ni eich helpu! Cysylltwch â ni yma.

Angen help i hyrwyddo digwyddiad rydych chi’n ei drefnu? Llwythwch ein poster gwag yma, rhowch y manylion a rhowch y poster i fyny yn eich ardal leol er mwyn dechrau rhannu’r wybodaeth.

Angen ffurflen noddi? Llwythwch un i lawr yma