Gwybodaeth am roi i staff ysbyty

Derbyn rhoddion arian parod

Gofynnwch i’r unigolyn fynd â’r rhodd yn syth i swyddfeydd y derbynyddion arian yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Neu, rhaid i ddau aelod o staff Bwrdd Iechyd y Brifysgol wirio’r swm, llenwi ffurflen rhoddion a rhoi derbynneb i’r rhoddwr cyn cadw’r rhodd yn ofalus. Ond mae’n RHAID bancio’r arian cyn pen 7 diwrnod i dderbyn yr arian yn swyddfeydd y derbynyddion arian.

Os hoffech anfon llythyr diolch gan eich ward neu adran, a fyddech cystal ag anfon copi i swyddfa’r Elusen Iechyd ar gyfer ein cofnodion.

Derbyn rhoddion drwy’r post

Llenwch y ffurflen rhoddion gan sicrhau bod enw’r rhoddwr, y cyfeiriad a manylion y rhif gwaddol wedi’u rhoi yn llawn.

Anfonwch y copi gwyn at y rhoddwr a llythyr diolch hefyd os ydych yn dymuno.

Ewch â’r rhodd i swyddfa’r derbynyddion arian ynghyd â chopi pinc y ffurflen a’r ddau gopi arall o’r ffurflen (bydd eich adran yn cadw’r copi melyn a dylid anfon y copi glas atom ni yn y post mewnol d/o Elusen Iechyd, Woodland House. Neu mae’n bosibl gadael y ffurflen las yn swyddfa’r derbynyddion arian, a bydd y swyddogion hynny yn anfon y ffurflen ymlaen ar eich rhan).

Derbyn Sieciau

Pan fyddwch yn derbyn sieciau gan roddwyr, lle nad yw’r cyfeiriad wedi’i roi, neu os ydynt wedi dod drwy law trefnwyr angladdau, rhaid eu hanfon ymlaen i swyddfa’r Elusen Iechyd i gael eu prosesu. Bydd yr Elusen Iechyd yn cysylltu â’r rhoddwyr drwy eu banc, gan ddefnyddio’r manylion sydd ar y sieciau ac yn sicrhau bod llythyrau diolch yn cael eu hanfon.

Bydd y ffurflenni derbynneb rhoddion melyn yn cael eu hanfon ymlaen i’r adrannau perthnasol er gwybodaeth ac ar gyfer eu cofnodion ar ôl i’r sieciau gael eu bancio yn swyddfa’r Derbynyddion Arian.

Cymorth Rhodd

Os yw rhoddwr yn talu treth yn y DU, mae modd hawlio cymorth rhodd ar unrhyw rodd, sy’n golygu mwy o arian i’r Elusen Iechyd – HEB UNRHYW GOST i’r rhoddwr. Mae’n bosibl codi 25c yn ychwanegol am bob punt, felly mae’n werth yr ymdrech.

Mae’n bwysig iawn bod yr Elusen Iechyd yn hawlio cymorth rhodd ar bob rhodd cymwys, ar ran Bwrdd Iechyd y Brifysgol. Pan fyddwch yn derbyn rhodd gan unigolyn, gofynnwch am gyfeiriad cartref y rhoddwr a sicrhau bod adran cymorth rhodd y ffurflen wedi cael ei llenwi. Fel arfer, mae rhoddwyr yn hapus iawn clywed ein bod yn gallu cael cymorth ychwanegol heb unrhyw gost iddynt hwy.

Rydym hefyd yn anfon llythyr diolch gan yr Elusen Iechyd, ac wrth gwrs, mae croeso i chi anfon nodyn personol hefyd.

Er mwyn i ni allu hawlio cymorth rhodd, mae’n rhaid i ni gael enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr, yn ogystal â chaniatâd. Nid oes modd hawlio cymorth rhodd ar roddion sy’n dod drwy gyfrwng sieciau gan gwmnïau.

Sicrhewch fod pob rhan o’r ffurflen rhodd wedi cael ei llenwi’n glir.

Ffurflen Cymorth Rhodd

Bydd yr Elusen Iechyd yn anfon llythyr diolch am BOB rhodd a ddaw i law. Mae croeso i chi ddal ati i anfon llythyrau diolch gan eich ward neu adran, ond cofiwch anfon copi i Swyddfa’r Elusen Iechyd ar gyfer ein cofnodion hefyd.