Rhoi

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi aelodau Tîm Nyrsio Ardal Penarth gyda’u cais ar gyfer Prosiect Lles yr Haf i ychwanegu man eistedd newydd i staff ymlacio a myfyrio yn ystod eu hamser cinio.

Cyn hyn nid oedd gan staff Tîm Nyrsio Ardal Penarth le yn eu swyddfa i ymlacio yn ystod eu hamser egwyl. Trwy drawsnewid ardal o’u gweithle yn amgylchedd lliwgar a thawel, bydd yn caniatáu i staff fwynhau eu hamser cinio, cyfarfod â chydweithwyr, a phrosesu sefyllfaoedd a digwyddiadau anodd y maent yn dod ar eu traws yn eu gwaith bob dydd.

Cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff y cais i brynu cadeiriau cyfforddus, soffa a byrddau coffi newydd, gan eu bod yn cefnogi lles staff yn uniongyrchol. Bydd yn gwneud i’r staff Nyrsio Ardal deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bydd hefyd yn lleihau eu lefelau straen trwy ddarparu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle.

Dywedodd Brooke Clark, Arweinydd Tîm Dros Dro Tîm Nyrsio Ardal Penarth: “Diolch eto i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am y rhodd garedig o’r dodrefn. Mae wedi codi calon y staff, gan ganiatáu i aelodau’r tîm gael seibiant braf yn ystod eu diwrnod lle gallant gael cinio/darllen llyfr ac ymlacio am ychydig. Rydym yn hapus iawn â nhw ac yn ddiolchgar dros ben!”

Trwy ymuno â’r Loteri i Staff, gallwch gefnogi prosiectau fel y rhain, gyda chyfle i ennill £1,000 bob wythnos! I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, ewch i: https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/

Gallwch wneud cais am arian gan y Loteri i Staff ar gyfer eich adran os yw eich prosiect yn cyd-fynd ag unrhyw un o’r themâu canlynol:

  • Gwella amgylchedd cleifion a staff, gan gynnwys celf a gwelliannau esthetig eraill
  • Gwella urddas, parch a phrofiad cleifion gan gynnwys gwella amwynderau ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
  • Hybu iechyd a lles
  • Hyrwyddo ansawdd a diogelwch

I gael gwybod sut i wneud cais, ewch i https://healthcharity.wales/hospital-staff/how-to-apply-for-funding/ neu e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.