Rhoi

Mae Apêl Prop ar gyfer cleifion yn yr Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau rhanbarthol, sydd yn Ysbyty Rookwood ar hyn o bryd.

£164,259

Fel arfer bydd gan gleifion anabledd difrifol ac sy'n newid bywyd ar ôl cael anafiadau i'r ymennydd, ac yn aml iawn bydd yn rhaid iddynt ddysgu sut i wneud tasgau bob dydd eto.

Gall rhai cleifion fod yn adsefydlu am rhwng tair a phum mlynedd; mae hyn yn golygu ei bod hi’n hyd yn oed pwysicach fod eu hamgylchedd yn gyfforddus ac yn ysgogol.

Mae rhoddion i Apêl Prop yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cleifion. Yn ddiweddar, mae’r Apêl wedi talu am sesiynau cerddoriaeth gan Lucie Phillips, therapydd o Nordoff Robbins   Ar hyn o bryd mae Lucie yn gweithio gyda chleifion ar ward 7 Ysbyty Rookwood bob wythnos, yn cynnal sesiynau therapi cerdd, sy’n gallu cefnogi pobl wrth iddynt addasu ac adsefydlu.

Mae’r arian hefyd wedi cael ei wario ar wella’r ystafell ddydd, sydd bellach yn edrych yn llawer mwy cartrefol diolch i haelioni cefnogwyr anhygoel Apêl Prop. Erbyn hyn, mae bwrdd, cadeiriau a gemau newydd sbon yn yr ystafell dydd. Mae’n lle rhagorol i gynnal partïon Nadolig, Pasg a Haf ar gyfer cleifion ac ymwelwyr.

Diolch o galon i bawb sydd wedi dewis cefnogi’r cleifion a’u teuluoedd yn Ward 7 Ysbyty Rookwood drwy redeg marathonau, eillio eu gwallt, dod i un o’n partïon bendigedig neu drwy gyfrannu.

If you would like to read the latest Prop Appeal Newsletter, please click here.

Mae modd i chi gyfrannu i Apêl Prop drwy JustGiving yma drwy glicio ar y botwm Rhoi ar ein gwefan.

Rhoi

Gweld ein hapeliadau eraill

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.