Rhoi

Gan fod mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol, rydym yn annog pobl i symud, gwella eu ffitrwydd a’u lles, a chefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ar yr un pryd.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gosodwch her i chi’ch hun am y mis. Boed hynny’n cerdded 20 munud y dydd, gan osod targed o 20k erbyn diwedd y mis, neu hyd yn oed cerdded 20,000 o gamau’r dydd. Gallwch chi ei wneud! Ewch ati i wella eich iechyd corfforol a meddyliol a chefnogi eich ysbytai lleol ar yr un pryd. Gallwch helpu i godi arian drwy ymweld â’n tudalen JustGiving i wneud cyfraniad, neu beth am greu eich tudalen rhoddion ar-lein eich hun a gofyn i ffrindiau, teulu a chydweithwyr eich cefnogi ar hyd y ffordd.

#CerddedYmlaen

Cymerwch ran: –

· Trefnwch daith gerdded noddedig yn eich gwaith, ysgol neu gymuned

· Heriwch ffrindiau a chydweithwyr – pwy all gerdded gyflymaf, bellaf, neu hyd yn oed godi’r mwyaf o arian

· Trefnwch gyfarfod cerdded

· Cerddwch ar hyd ein harfordir prydferth

· Gwnewch her rithwir – gan gerdded pellter Cymru gyfan!

· Gosodwch her ar eich oriawr smart/fitbit

Ac yn y blaen! Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Angen help? Cysylltwch â’n tîm codi arian gwych drwy e-bostio fundraising.cav@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02921 836 042

Arbedwch ein cardiau cymdeithasol isod i helpu gyda’ch ymgyrch codi arian!⬇️

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.