Rhoi

Yn ddiweddar, fe gymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gynnig i ddarparu baddonau cwyr newydd ar gyfer Gwasanaeth Rhewmatoleg Bediatrig Cymru.

 Mae Gwasanaeth Rhewmatoleg Bediatrig Cymru yn wasanaeth trydyddol newydd ei sefydlu sy’n cwmpasu De Cymru, yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau rhewmatolegol fel arthritis, osteoarthritis ac anhwylderau eraill y system gyhyrysgerbydol. Mae arthritis yn gyflwr hirdymor sy’n effeithio ar bob agwedd o fywyd ac yn cael effaith negyddol ar les cleifion, gyda llawer yn profi cyfnodau hir o boen a chyfyngu ar symudiad y cymalau.

Mae baddonau paraffin wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion sy’n dioddef o gyflyrau rhewmatolegol drwy leddfu poen ac anystwythder, a gwella symudedd. Bellach gall cleifion ddefnyddio’r baddonau cwyr newydd i wella eu canlyniadau therapiwtig o ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a chefnogi’r gwaith o ddatblygu eu gofal a lleddfu eu symptomau a’u poen.

Cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff y cais gan ei fod yn helpu gyda lles corfforol a meddyliol cleifion drwy gynorthwyo gydag adferiad a chanlyniadau therapiwtig, yn ogystal â gwella profiad y claf.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.