Rhoi

Yn ddiweddar, cefnogodd Panel Cynigion Loteri’r Staff brosiect i wella amgylchedd y llecyn lles staff sydd newydd ei greu yn Llyfrgell Cochrane yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Cafwyd cyllid gan Brifysgol Caerdydd i brynu dodrefn, deunydd darllen hamdden, llyfrau lles, gemau a gosod gwybodaeth ar gyfer yr ardal ddynodedig, a bydd arian Loteri’r Staff yn darparu gwaith celf llachar a modern a finylau wal i addurno waliau’r llyfrgell.

Mae’r llyfrgell eisoes yn fan diogel a thawel i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle gallant ddefnyddio cyfrifiaduron i ddal i fyny â hyfforddiant, neu astudio i ffwrdd o amgylchedd prysur yr ysbyty. Yn flaenorol, roedd décor yr ardal wedi dyddio ac yn anghynnes, ac nid oedd man ymlacio dynodedig ar gyfer defnyddwyr y llyfrgell. Drwy drawsnewid y gofod gyda gwaith celf llachar a modern, bydd y llecyn lles pwrpasol yn croesawu staff y GIG gan gynnig cyfle iddynt ymlacio, gorffwys a dod o hyd i wybodaeth am ystod o gymorth iechyd meddwl a lles. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gynnal gweithgareddau sy’n ymwneud â lles fel clybiau llyfrau a gweithdai ymwybyddiaeth ofalgar.

Dywedodd Jennie Roe o’r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth: “Mae croeso i holl staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod yma, edrych o gwmpas a darganfod sut y gall y gwasanaeth llyfrgell eich cefnogi chi – rydym wedi ein lleoli yn Adeilad Routledge wrth y brif fynedfa. Os ydych chi’n chwilio am le i gynnal gweithgaredd sy’n ymwneud â lles, cysylltwch â’r llyfrgell: cochraneliby@caerdydd.ac.uk

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff wrth eu bodd yn cymeradwyo’r cais, gan ei fod yn cefnogi staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drwy ddarparu lle iddynt ymlacio a chamu i ffwrdd o amgylchedd prysur yr ysbyty. Yn ogystal â gwella lles staff, mae’r gofod hefyd yn hyrwyddo dysgu ac yn annog datblygiad staff. Mae’r Panel Cynigion yn gobeithio y bydd gwella’r gofod hwn yn cynnig eiliadau o dawelwch i staff sy’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ymhell o’u prysurdeb dydd i ddydd.

Pam ddylech CHI ymuno â Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â’r Loteri i Staff am gyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir llenwi ffurflenni cais  yma.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.