Rhoi

Yn ddiweddar, mae tîm Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi prosiect i wella amgylchedd y Clinig Cyn Geni yn Ysbyty Athrofaol Llandochau lle mae’r Clinig Enfys hefyd wedi’i leoli.

Mae’r Clinig Enfys yn gofalu am fenywod a’u partneriaid sydd, yn drist iawn, wedi colli babi neu fabanod yn ystod beichiogrwydd, neu’n fuan ar ôl genedigaeth. Yn y clinig, mae teuluoedd yn cyfarfod â chlinigwyr i ddeall pam y bu farw eu babi ac i gynllunio beichiogrwydd yn y dyfodol os dymunir. Mae’r tîm clinigol yn darparu gofal arbenigol i’r menywod hyn yn ystod beichiogrwydd dilynol er mwyn lleihau’r risg y byddant yn wynebu’r un sefyllfa eto, a darparu gofal parhaol i’r teuluoedd hyn.

Oherwydd natur sensitif yr apwyntiadau a fynychir yn ystod amser trallodus iawn, mae’r amgylchedd yn chwarae rhan arwyddocaol ym mhrofiad y menywod wrth dreulio amser yn yr ardal glinigol. Mae’r teuluoedd wedi gofyn yn flaenorol am wella amgylchedd y clinig, er mwyn iddo gyfleu ymdeimlad o obaith wrth iddynt aros am eu hapwyntiadau.

Dechreuodd y prosiect i wella’r Clinig yn ôl ym mis Hydref 2020, pan gerddodd y staff 15 milltir o Ysbyty Athrofaol Llandochau i’r Ward Famolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru mewn siâp calon i godi arian ar gyfer y clinig. Codwyd swm anhygoel o £6,260, a neilltuwyd £5,436.66 i wella’r fynedfa, y brif ardal aros a’r ystafell glinig. Sicrhawyd arian y loteri i staff hefyd i ehangu’r prosiect i gynnwys gwelliannau i’r ystafell dawel.

Sicrhawyd dodrefn ar gyfer yr ystafell dawel hefyd yn gynharach eleni diolch i rodd hael o £1,805.00 gan dîm 7 bob ochr Cwmtawe, a gynhaliodd ddiwrnod golff i gefnogi gwaith y Clinig Enfys. Prynwyd cadeiriau, planhigion, a chloc ar gyfer yr ardal, a ddefnyddir fel man preifat i fenywod a’u partneriaid yn dilyn canfyddiadau uwchsain annisgwyl, a hefyd fel man aros i deuluoedd mewn profedigaeth wrth fynychu ymgynghoriadau ôl-drafod.

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff wrth eu bodd yn caniatáu’r arian oedd yn weddill i wella’r mannau aros a oedd wedi’u cynnwys yn y cais gwella cychwynnol gan y menywod a fynychai’r clinig. Gan gydnabod bod menywod a phartneriaid sy’n mynychu’r clinig yn wynebu rhai o gyfnodau mwyaf trallodus eu bywydau, mae gwella’r amgylchedd y maent yn ei ddefnyddio yn gam cyntaf i sicrhau eu bod yn cael ymdeimlad o obaith a sicrwydd.

Mae tîm Enfys (Dr Monique Latibeaudiere, Dr Amy Robb a Mrs Lizzie Kinsella) wrth eu bodd i wireddu ceisiadau’r teuluoedd a roddodd mor hael yn 2020. 

Dywedodd Amy Robb, yr Obstetrydd Ymgynghorol yn y Clinig Enfys: “Fydden ni ddim wedi llwyddo i gwblhau’r prosiect heb gymorth yr Elusen Iechyd a’r rhoddion hael ychwanegol yn enwedig gan dîm 7 bob ochr Cwmtawe. Diolch!”

Bu Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’r partneriaid hirsefydlog, Grosvenor Interiors a Poppi Furniture i osod finylau wal hardd a chyflwyno dodrefn newydd.

Mae’r delweddau ar draws y mannau aros yn dangos golygfeydd heddychlon a llachar o fyd natur. Gobeithiwn y caiff y gwelliannau hyn effaith gadarnhaol ar y menywod a’r teuluoedd sy’n mynychu’r clinig yn ystod cyfnod mor anodd, a’u bod o fudd i staff anhygoel y clinig hefyd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.