Rhoi

Rhoddwyd arian yn ddiweddar gan Banel Cynigion Loteri’r Staff a Chronfa Waddol Morgan i drawsnewid waliau Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, er mwyn ei gwneud yn ofod mwy bywiog a chroesawgar.

Y llynedd, symudwyd y Gwasanaethau Asgwrn Cefn o Ysbyty Rookwood i Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r cyfleusterau adsefydlu newydd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i gleifion adfer ac yn gwella eu proses adsefydlu drwy ddefnyddio’r offer diweddaraf.

Roedd waliau Ysbyty Rookwood bob amser wedi’u haddurno â gwaith celf i wella’r amgylchedd, ac iechyd a lles cleifion a staff. Mae’r Gampfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn olau ac yn eang, ond roedd y waliau gwag yn gwneud iddi deimlo’n glinigol ac yn anneniadol.

Mae cleifion sy’n defnyddio’r gampfa yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau hirach, ac yn defnyddio’r offer yn ddyddiol. Nod ychwanegu’r gwaith celf yw gwella’r amgylchedd a phrosesau adsefydlu cleifion trwy gynnwys dyfyniadau ysgogol a ysbrydolwyd gan Henry Fraser, sydd â phrint “Edrychwch bob amser ar yr hyn y gallwch ei wneud” yn cael ei arddangos yn yr uned. Dioddefodd Henry anaf i’r asgwrn cefn ac yn ystod ei adferiad dysgodd ei hun i ddarlunio a phaentio gan ddefnyddio ffon geg.  Mae ei lyfr Hand to Mouth yn cynnwys celf ysbrydoledig, hardd.

Wedi’i chreu a’i gosod gan Grosvenor Interiors, sydd wedi gweithio gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ar brosiectau lluosog i ddarparu gwaith celf ar draws safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn bellach wedi’i thrawsnewid yn ardal fywiog ac ysbrydoledig. Bydd cleifion a staff sy’n mynychu’r gampfa bellach yn gallu elwa ar yr effaith gadarnhaol y mae’r celfyddydau yn ei chael ar eu hiechyd a’u lles.

Mae’r adborth a gafwyd hyd yma gan ddefnyddwyr Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn wedi bod yn gadarnhaol dros ben:

Cleifion:

“Mae’n wych, rwy’n credu y dylai’r dyfyniadau fod o amgylch yr ysbyty”

“Mae’r dyfyniadau’n ysgogol iawn”

Mae’n gadarnhaol ac mae’n gwneud i mi beidio â phoeni am yr adsefydlu”

“rwyt ti’n gryfach nag yr wyt ti’n ei feddwl – mae hwn yn rhywbeth mae fy mam bob amser wedi’i ddweud wrthyf”

Staff:

“Mae’n bywiogi’r gofod ac wedi agor sgyrsiau gyda chleifion”

“Mae’n hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at adsefydlu”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi’r prosiect, gan y bydd yr amgylchedd gwell o fudd i holl ddefnyddwyr Campfa Adsefydlu’r Asgwrn Cefn, gan ysbrydoli cleifion presennol Gwasanaethau’r Asgwrn Cefn a chleifion y dyfodol, drwy gydol eu hadsefydlu.

Roedd y prosiect hwn yn bosibl oherwydd haelioni rhodd Gwaddol Morgan.  Bob blwyddyn mae’r incwm a dderbynnir gan yr Elusen Iechyd trwy Roddion mewn Ewyllysiau yn cyfrannu’n sylweddol at sut rydym yn cefnogi gwasanaethau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae rhoi rhodd yn eich ewyllys yn gallu golygu eich bod yn rhoi canran o’ch ystâd, cyfandaliad, cyfranddaliadau neu eitem werthfawr, ac mae’n ffordd werthfawr a hael o helpu i wneud gwahaniaeth i ofal cleifion.

Os hoffech gael gwybod mwy neu drafod sut y gallwch gefnogi gwasanaethau gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy adael rhodd yn eich ewyllys, ewch i https://healthcharity.wales/how-you-can-help/gift-in-wills/neu cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk.  

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yno i chi a’ch anwyliaid, pryd bynnag y byddwch ein hangen ac ar gyfer pob cam o fywyd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.