Rhoi
Michelle Thomas, Cwnselydd Gofal Sylfaenol a Therapydd Dwysedd Uchel o’r Gyfarwyddiaeth Seicoleg a Therapïau Seicolegol

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi cais i osod tair sedd blygu ar hyd coridor hir Ysbyty Brenhinol Caerdydd, er mwyn ceisio gwella profiad cleifion, staff ac ymwelwyr.

Yn flaenorol, nid oedd gan y coridor hir drwy Ysbyty Brenhinol Caerdydd unrhyw le a oedd yn galluogi unigolion bregus, oedrannus, neu i’r rhai sydd â chyflyrau anadlol a symudedd, i orffwys. Mae ychwanegu’r seddi yn golygu bod cleifion, staff ac ymwelwyr yn gallu gorffwys wrth fynd i’w hapwyntiadau, gan wneud y coridor yn amgylchedd mwy diogel a charedig i’r rhai nad ydynt yn gallu bod ar eu traed am gyfnodau estynedig.

Dywedodd Sheila Williams, Rheolwr Gweinyddu y Tîm Seicoleg a Therapïau Seicolegol: “Mae rhai cleifion yr wyf wedi cynnig cymorth iddynt wedi mynegi y byddai’n well ganddynt beidio â gorfod dibynnu ar eraill i’w helpu er mwyn bodloni eu dymuniad o fod yn annibynnol, a chadw eu hannibyniaeth, a byddai seddi yn datrys y broblem honno. Bydd staff hefyd yn elwa o’r prosiect hwn, gan fod gennym nifer o staff sydd â chyflyrau symudedd.”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gymeradwyo’r cais, gan ei fod yn gwella’r amgylchedd i gleifion a staff yn sylweddol, ac yn cefnogi unigolion a allai fod yn ei chael hi’n anodd cerdded ar hyd holl goridor Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.