Rhoi

Mae hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar 12 Mai ac rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r dathliadau sy’n digwydd ar draws safleoedd y BIP heddiw.

Ar draws ein Cyfarwyddiaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol a Thrawma ac Orthopedeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a Chyfarwyddiaethau Meddygaeth yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant, mae ein Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cytuno i ariannu basgedi ffrwythau a dewisiadau amgen iach i’n staff nyrsio i helpu gyda’u hiechyd a’u lles. Yn rhan o’r dathliadau, bydd y timau’n treulio amser yn myfyrio ar yr heriau diweddar a’u cyflawniadau anhygoel.

Rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau eu diwrnod arbennig!

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.