Rhoi

Ar 5 Mai, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig, ac eleni mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi’r adran Obstetreg a Gynecoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda’i Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff drwy ddarparu arian ar gyfer pum basged i’r enillwyr.

Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig, mae morâl y staff wedi bod yn isel. Fel ffordd o gydnabod holl waith caled ac ymdrech y staff, roedd yr adran wedi sefydlu ffurflen cydnabyddiaeth staff i gleifion ac ymwelwyr gael enwebu eu seren yn un o’r pum categori canlynol;

*Myfyriwr Bydwreigiaeth *Bydwraig Gymunedol *Y Cymhellwr *Cymorth o ran Bwydo *Mynd yr Ail Filltir

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi’r fenter hon ac yn dymuno pob lwc i’r holl enwebeion.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.