Rhoi

Yn ddiweddar, mae Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cefnogi prosiect i wahodd yr artist Jenni Dutton i arddangos ‘The Dementia Darnings’ yn Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac i’w merch, Briony Goffin, gyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol yn ystod yr arddangosfa.

Mae ‘The Dementia Darnings’ yn bortreadau cywrain wedi’u pwytho o fam Jenni, Gladys Dutton, a grëwyd mewn ymateb i ddiagnosis dementia Gladys, gan ddefnyddio portreadau a ganfuwyd mewn hen albymau lluniau. Mae’r arddangosfa wedi teithio’n helaeth o amgylch y DU ac wedi teithio i Ewrop a Tsieina, a dyma fydd y tro cyntaf iddi gael ei dangos yng Nghymru.

Bydd ei merch, Briony Goffin, hefyd yn ymuno â Jenni ac yn cyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol – Writing as Tribute. Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa The Dementia Darnings, bydd y gweithdy ysgrifennu creadigol cynnes a chroesawgar hwn yn archwilio grym Writing as Tribute. Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan Briony, sy’n awdur a thiwtor, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ysgrifennu teyrnged i rywun arbennig yn eu bywydau ar ffurf cerdd restr syml. Nid oes angen unrhyw brofiad ysgrifennu blaenorol, a darperir yr holl ddeunyddiau ysgrifennu. Nid oes ffi gofrestru, ac mae’r gweithdai yn agored i bawb.

Cafodd y gweithdy hwn ei ysbrydoli hefyd gan sgwrs TED Briony Goffin, Writing as an Act of Tribute, lle mae Briony yn defnyddio ffurf y gerdd restr i anrhydeddu ei mam-gu, Gladys Dutton, testun y gwaith celf yn arddangosfa The Dementia Darnings. Mae’r prosiect hwn wedi creu cyfle i waith mam a merch orgyffwrdd, ac i ddod â thair cenhedlaeth o fenywod yn ôl at ei gilydd unwaith eto.

Dywedodd Melanie Wotton, Rheolwr Prosiect y Celfyddydau mewn Iechyd: ‘I nifer, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd, gyda llawer yn teimlo wedi’u hynysu oddi wrth anwyliaid, ac er nad oes llawer o’r straeon wedi’u hadrodd eto, mae mynegi teithiau bywyd drwy’r celfyddydau creadigol yn y cyfnod hwn yn golygu bod angen ymagwedd ofalgar, sensitif.’

‘Bydd y prosiect yn rhannu profiadau cadarnhaol Jenni, yn dangos sut y gall y celfyddydau creadigol helpu gofalwyr i reoli eu lles, a darparu sgiliau ysgrifennu creadigol a chyfleoedd i staff, cleifion ac ymwelwyr yr oriel i fynegi eu hunain.’

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn hapus i gefnogi’r prosiect hwn gan ei fod yn dod â gwaith celf anhygoel Jenni Dutton i Gymru am y tro cyntaf, ac yn cynnig cyfleoedd i aelodau o gymuned Ysbyty Athrofaol Llandochau i ddefnyddio eu creadigrwydd yn y gweithdai, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.

Bydd arddangosfa The Dementia Darnings i’w gweld rhwng 4 Mai – 13 Mehefin 2022.

Digwyddiad Agoriadol: Dydd Mercher 4 Mai, 12pm yn Oriel yr Aelwyd

Sesiynau Cwrdd â’r Artist: 5 + 18 Mai / 6 + 7 Mehefin, 12pm yn Oriel yr Aelwyd

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol wyneb yn wyneb: Dydd Iau 19 Mai, 11am – 1pm

Cofrestrwch drwy fynd i: https://www.eventbrite.co.uk/e/in-person-creative-writing-workshop-with-briony-goffin-tickets-314560387587

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol ar-lein: Dydd Iau 26 Mai, 11am – 1pm

Cofrestrwch drwy fynd i: https://www.eventbrite.co.uk/e/online-creative-writing-workshop-with-briony-goffin-tickets-314563968297

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.