Rhoi

Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i ddarparu mainc gardd newydd i’r staff yng nghanolfan alwadau gwasanaethau dydd y BIP sydd wedi’i lleoli yn hen ganolfan hamdden y Barri, a fydd yn caniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn yr awyr agored yn ystod eu hamser egwyl.

Nid oedd aelodau’r tîm yn gallu gweithio gartref yn ystod y pandemig, felly roedd Wendy Wade, Rheolwr Gwasanaeth Ardal y Fro, eisiau eu gwobrwyo am eu hymdrechion gyda gwelliant i’w hamgylchedd yn y gweithle. Roedd y fainc bresennol mewn cyflwr gwael a oedd yn golygu nad oedd y staff eisiau treulio amser yn yr awyr agored. Yr ardal y tu allan lle mae’r fainc wreiddiol yw’r unig le yn yr awyr agored y gallant fynd iddo yn ystod eu seibiant cinio, felly bydd y gwaith uwchraddio yn caniatáu i staff fwynhau’r lle yn ystod misoedd yr haf.

Dywedodd Wendy Wade, Rheolwr Gwasanaeth Ardal y Fro: “Diolch yn fawr iawn i’r Elusen Iechyd am brynu mainc y tu allan i staff. Nid yw aelodau staff canolfan alwadau’r Bwrdd Iechyd sydd wedi’i lleoli yn hen ganolfan hamdden y Barri yn gallu gweithio gartref ac, fel pob aelod o staff y Bwrdd Iechyd, maent wedi cael rhai blynyddoedd anodd iawn. Ychydig iawn o olau naturiol sydd yn y ganolfan alwadau felly drwy ychwanegu gofod y tu allan, gallant fwynhau eu seibiant yn yr awyr iach a fydd yn helpu lles y tîm.”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gymeradwyo’r cais, gan ei fod yn hyrwyddo lles staff trwy wella amgylchedd eu gweithle, a chaniatáu iddynt dreulio amser yn yr awyr agored.

Pam ddylech CHI gefnogi Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.