Rhoi

Yn ddiweddar, cefnogodd Panel Cynigion Loteri’r Staff brosiect i ddarparu seddi awyr agored yng ngardd gaeedig Ysbyty Dewi Sant.

Mae staff a chleifion yn gallu cael mynediad i ardal yr ardd ar hyn o bryd; fodd bynnag, nid yw’n cael ei defnyddio’n llawn oherwydd diffyg seddi. Drwy ddarparu’r seddi ychwanegol, byddai’r gofod awyr agored yn dod yn amgylchedd cysurus i gleifion a’u gofalwyr ei ddefnyddio’n aml. Bydd staff Ysbyty Dewi Sant hefyd yn gallu ei ddefnyddio i ymlacio a dadflino yn ystod eu seibiannau, gan nad oes hafan staff ar gael ar y safle ar hyn o bryd.

Cyflwynwyd y cynnig gan Ruth Cann, Uwch Nyrs Meddygaeth Integredig yn Ysbyty Dewi Sant, a ddywedodd: ‘Byddai seddi cyfforddus a gwydn yn yr ardaloedd hyn yn annog staff i gymryd eu seibiannau i ffwrdd o’r wardiau yn ystod y misoedd cynhesach. Bydd awyr iach a golau dydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles yn ogystal â chreu opsiwn mwy diogel ar gyfer seibiannau staff, o safbwynt cadw pellter cymdeithasol oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Bydd gallu cymryd seibiannau gyda’n gilydd yn cefnogi lles staff ac yn hyrwyddo cydlyniant tîm.’

Mae’r dodrefn bellach wedi’u gosod, ac mae’n ychwanegiad lliwgar i’r ardal gaeedig. Dywedodd Zara Jenkins, Dirprwy Brif Nyrs y Ward: ‘Maent yn wych ac yn ychwanegiad i’w groesawu i’n gardd.  Bydd cleifion a staff yn cael budd ohonynt (…) ac rydym yn gobeithio cael llawer o ddefnydd allan ohonynt yn y misoedd nesaf wrth i ni anelu tuag at y gwanwyn/haf. 

Mae llawer o staff eisoes wedi dweud na allant aros i ddefnyddio’r gofod a’r dodrefn ar gyfer eu seibiannau i wella eu lles. 

Diolch yn fawr i’r Elusen Iechyd am ddarparu’r offer hwn.’

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn hapus i gefnogi’r cynnig gan fod y prosiect yn hyrwyddo effeithiau cadarnhaol treulio amser yn yr awyr agored, ac yn rhoi lle ychwanegol i staff a chleifion ymlacio ynddo — newid i amgylchedd prysur yr ysbyty.

Pam ddylech CHI gefnogi’r Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.