Rhoi

Partner Elusen neu Elusen y Flwyddyn

Mae dod yn bartner elusen yn ffordd wych o gyfrannu at achos da a dod â’ch cydweithwyr ynghyd i gael hwyl. Mae cannoedd o fusnesau wedi cyfrannu sgiliau, amser ac arian i’r Elusen Iechyd dros y blynyddoedd, ac rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog sydd wedi cael ei chasglu.

Beth am ein henwebu ni yn ‘Elusen y Flwyddyn’ neu tybed allwch chi gynnig eich gwasanaethau am ddim? Os hoffech glywed mwy am yr hyn y gallwch ei wneud a dod yn bartner elusen, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Rhodd ymarferol

Gall cynnig eich gwasanaethau proffesiynol fod yn ffordd wych o helpu i hyrwyddo eich busnes a helpu i gefnogi’r Elusen Iechyd. P’un ai allwch chi gynnig lleoliad am ddim i ni ar gyfer digwyddiad elusennol, cymorth cyfreithiol, gofod hysbysebu neu wobr raffl, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i drafod cyfleoedd.

Nawdd

Mae cyfleoedd noddi mawr a bach yn ein digwyddiadau, gyda chyfleoedd brandio ac enwi hefyd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi ein digwyddiadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael gwybod sut gall eich cwmni fod yn fwy gweledol tra’n helpu ysbytai ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.