Rhoi

Trwy gyllid gan y Loteri i Staff yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o greu llinell amser i adlewyrchu 200 mlynedd o ofal iechyd wedi’i drefnu yn cael ei ddarparu yn ardal De a Dwyrain Caerdydd, sydd bellach yn cael ei arddangos yn y coridor Therapïau yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Mae’r llinell amser yn dilyn taith yr ysbyty ers 1822 wrth iddo symud i nifer o leoliadau, o safle cyntaf Cardiff Dispensary ar Working Street, Yr Aes ac yn y pen draw, i safle presennol Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’r llinell amser yn cofnodi digwyddiadau, cyflawniadau a newidiadau arwyddocaol a ddigwyddodd yn yr ysbyty drwy gydol y cyfnod hwn, yn ogystal â rhoi syniad o sut brofiad fyddai wedi bod i’r cleifion a’r staff a oedd wedi’u lleoli yno.

Curadwyd a chofnodwyd cynnwys y llinell amser gan Bex Betton, a arweiniodd y prosiect, a Gwawr Faulconbridge gyda chefnogaeth amgueddfeydd lleol, archifau, papurau newydd ac aelodau presennol a chyn-aelodau staff. Yna darluniwyd y llinell amser a’i gosod fel finyl ar y wal gan Grosvenor Interiors.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y llinell amser.

Mae wedi bod yn bleser archwilio hanes Ysbyty Brenhinol Caerdydd a thu hwnt fel rhan o’r prosiect hwn a chlywed cymaint o straeon hyfryd gan gyn-aelodau o staff yn ogystal â gwneud cysylltiadau â staff presennol. Mae’n wych gweld y llinell amser ar y wal a rhannu hanes a threftadaeth y safle gyda chymuned Ysbyty Brenhinol Caerdydd.”

-Bex Betton, Swyddog Cymorth Codi Arian y Celfyddydau

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y llinell amser, gwiriwch y rheoliadau COVID-19 presennol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a chadw at unrhyw ganllawiau.

I gael rhagor o wybodaeth am waith tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ewch i: https://cardiffandvale.art/cardiff-royal-infirmary-people-place-future/

Trwy ymuno â’r Loteri i Staff, gallwch gefnogi prosiectau fel hyn, gyda chyfle i ennill £1,000 bob wythnos yn ogystal â gwneud cais am arian er budd eich adran eich hun. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.