Rhoi

I ddweud diolch i staff ar safleoedd ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a fu’n gorfod gweithio yn ystod y tywydd poeth diweddar, gwnaeth Panel Cynigion Loteri’r Staff ariannu faniau hufen iâ i ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Rhoddwyd Tip Tops hefyd i staff yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant.

Cafodd yr hufen iâ am ddim ei roi i staff ddydd Sul 17 Gorffennaf pan oedd y tymheredd yn eithriadol o uchel ledled y DU, gyda’r nod o roi hwb i ysbryd pawb yn ystod yr amgylchiadau heriol. Croesawyd y danteithion oer yn fawr gan staff, a oedd yn gwerthfawrogi’r rhodd fach i ddweud diolch am eu hymroddiad a’u gwaith caled diddiwedd.

Ariannwyd yr hufen iâ gan Gronfa Loteri’r Staff, sef cynllun rhoi o’r gyflogres staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n rhoi cyfle i gyfranwyr ennill £1,000 bob wythnos. Defnyddir y cyfraniadau i wella profiad staff a chleifion ac i gynnal phrosiectau cyffrous ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae darparu hufen iâ am ddim ar safleoedd ein hysbytai yn un enghraifft yn unig o sut y gellir defnyddio’r arian i wella’r amgylchedd gwaith, a chodi calon staff gwych ein GIG.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff a chael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost uchod i gael manylion.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.