NHS Charities Together
NHS Charities Together yw’r elusen annibynnol genedlaethol sy’n gofalu am y GIG, ac mae’n gweithredu fel llais ar y cyd i elusennau’r GIG yn ogystal â chydlynu ymdrechion codi arian cenedlaethol. Ers dechrau’r pandemig yn 2020, a diolch i’r holl haelioni a gwerthfawrogiad a ddangoswyd i’n GIG ledled y wlad, derbyniodd NHS Charities Together filiynau o bunnoedd mewn rhoddion, gan gynnwys ymgyrch codi arian enwog Capten Syr Tom Moore a gododd dros £30 miliwn i gefnogi’r GIG.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn un o dros 230 o elusennau’r GIG ledled y DU, sydd ers hynny wedi gwneud cais am grantiau gan NHS Charities Together ac wedi eu derbyn, er mwyn ein helpu i ddarparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen i ofalu am staff y GIG, cleifion a’r gymuned ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
O ganlyniad i dderbyn y grantiau hyn, isod ceir enghraifft o’r prosiectau niferus ac amrywiol y mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gallu eu cefnogi, y mae rhai ohonynt yn dal i fynd rhagddynt.
Campfeydd yn y Wardiau wedi’u Gosod yn Hafan y Coed
Yn ystod y pandemig COVID-19, ymgeisiodd staff Hafan y Coed, uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, am gyllid gan NHS Charities Together drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu offer campfa ar gyfer y wardiau.
Prynu Cymhorthion Geni ar gyfer yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd
Fe wnaeth cyllid gan NHS Charities Together gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu cymhorthion geni ar gyfer yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd yn ystod Pandemig COVID-19. Roedd yr eitemau a brynwyd yn cynnwys dwy System Geni Multitrac a phum cadair geni, y ddau wedi’u cynllunio i gefnogi ac annog menywod i fod mewn safle unionsyth, symudol wrth roi genedigaeth.
Ymestyn swydd Arweinydd Cynhwysiant Digidol yn y Coleg Adfer a Lles
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o allu ymestyn y cyllid i gefnogi’r rôl hon am 2 flynedd arall fel y gall ei effaith gadarnhaol barhau i gefnogi’r staff a’r myfyrwyr yn y Coleg Adfer a Lles.
Eitemau wedi’u rhoi i Adran Gweithrediad yr Ysgyfaint a Chwsg Ataliol i Gefnogi eu Gwasanaeth Gyrru Drwodd
Yn ystod Pandemig COVID-19, addaswyd Gwasanaeth Cwsg Adran Gweithrediad yr Ysgyfaint a Chwsg Ataliol i fod yn wasanaeth gyrru drwodd i leihau nifer y cleifion yn yr ysbyty. Darparodd arian gan NHS Charities Together sawl eitem newydd i gefnogi cysur staff a chleifion sy’n defnyddio’r clinig awyr agored.
Eitemau sy’n cael eu Gwerthfawrogi’n Fawr wedi’u Hariannu i Sawl Adran drwy NHS Charities Together
Rhoddwyd nifer o eitemau cegin a lles i adrannau ledled BIP Caerdydd a’r Fro yn ystod Pandemig COVID-19 drwy gyllid gan NHS Charities Together i wella profiad staff a chleifion.
Dodrefnu Ystafell Skype ar gyfer Ward Helyg yn ystod y Pandemig COVID-19
Roedd cyllid gan NHS Charities Together wedi ei gwneud hi’n bosibl i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gefnogi Ward Helyg gyda’u cais i ddodrefnu ystafell y gallai staff ei defnyddio i wneud galwadau Skype, pan symudwyd apwyntiadau ar-lein.
Eitemau wedi’u Darparu i Wella Lles Cleifion a Staff yn yr Adran Therapi Iaith a Lleferydd i Oedolion
Rhoddwyd arian gan NHS Charities Together, drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, i gyflawni cais gan yr Adran Therapi Iaith a Lleferydd i Oedolion i ddarparu nifer o eitemau er mwyn cefnogi lles cleifion a staff yn ystod y Pandemig COVID-19.
Chwech o welyau Z y gellir eu plygu wedi’u rhoi i’r Adran Gofal Lliniarol
Yn ystod Pandemig COVID-19, gofynnodd yr Adran Gofal Lliniarol am chwe gwely Z y gellir eu plygu gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gyda chyllid gan NHS Charities Together.
Eitemau gweithgaredd a gofal wedi’u cyflwyno i wardiau lluosog gan Natalie McCulloch drwy gyllid gan NHS Charities Together
Gwnaeth y Cydlynydd Gweithgareddau, Natalie McCulloch gais am arian drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gyflwyno amrywiaeth o eitemau gofal a gweithgaredd i wella lles cleifion ar ward Dwyrain 8 a wardiau ychwanegol yn ystod y pandemig Covid-19. Drwy arian gan NHS Charities Together, llwyddodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i roi nifer o eitemau newydd i nifer o wardiau, y mae llawer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw nawr.
Prynu eitemau ar draws y Bwrdd Iechyd i alluogi cleifion i gael profiad mwy cyfforddus ac effeithlon
Mae cyllid gan NHS Charities Together wedi cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu nifer o eitemau newydd ar draws sawl adran yn y Bwrdd Iechyd i roi profiad mwy cyfforddus ac effeithlon i gleifion trwy gydol y pandemig COVID-19.
Finyl ar y wal i adlewyrchu staff ein Bwrdd Iechyd sy’n archarwyr
Gyda chyllid gan NHS Charities Together, mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gomisiynu darlun finyl newydd ar y wal gyda Grosvenor Interiors.
Ophelia Dos Santos yn creu’r darn, My Grampy Mike
Gwnaeth Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gomisiynu Ophelia Dos Santos i gynhyrchu darn o waith celf sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a ledled Cymru.
Lliwiau’r GIG, gwaith celf gan Clare Williams
Comisiynwyd y darn ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wahodd ceisiadau gan artistiaid a chydweithwyr creadigol i weithio ar brosiectau sy’n darparu negeseuon o gefnogaeth a pharch, ac i ailddatgan eu hymrwymiad i barhau i weithio gyda’u cleifion, staff a chydweithwyr a darparu cymorth fel rhan o’u hymrwymiad ar y cyd i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i bawb.
Gwaith Celf Cynhwysiant gan Adele Pask
Mae rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Caerdydd a’r Fro, gyda chyllid gan NHS Charities Together, yn falch iawn o gomisiynu’r artist Adele Pask i greu darn o waith celf mewn ymateb i’r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, ac fel rhan o Agenda Cynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Gwledd o Gelf ar gyfer Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro
Er mwyn gwella’r amgylchedd i gleifion sy’n ymweld â Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS) yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, comisiynodd Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles amrywiaeth o ddarnau o waith celf, y cafodd rai ohonynt eu cefnogi gan arian a roddwyd yn garedig gan NHS Charities Together, i’w arddangos i bawb eu gweld.
Ystafell staff yr Uned Sterileiddio a Diheintio Deintyddol wedi’i hadnewyddu
Rhoddwyd dodrefn newydd i’r Uned Sterileiddio a Diheintio Deintyddol drwy arian gan NHS Charities Together i wella ystafell staff yr uned.
Tyfu’n Dda yn datblygu ei raglen i gynnig sesiynau garddio cymunedol therapiwtig i gleifion
Gyda chyllid gan NHS Charities Together drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, llwyddodd Tyfu’n Dda i weithredu strategaeth ddwy flynedd i gynyddu capasiti prosiectau i gefnogi mwy o gleifion lleol, ehangu safleoedd yr ardd ymhellach a chyflogi hwyluswyr.
Cefnogi staff i greu amgylcheddau gwaith gwell
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi Phoenix Community yn ddiweddar, uned adsefydlu iechyd meddwl i oedolion yng Nghaerdydd, drwy ddarparu dodrefn newydd ar gyfer eu hystafell staff, gan helpu i greu amgylchedd gwaith gwell i staff.
Cyflogi Arweinydd Cynhwysiant Digidol yn y Coleg Adfer a Lles
Gan y bu’n rhaid darparu mwyafrif y cyrsiau ar-lein yn ystod y pandemig Covid-19, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gallu rhoi arian trwy NHS Charities Together i’r coleg gyflogi Arweinydd Cynhwysiant Digidol gyda chylch gwaith penodol i gyd-gynhyrchu hyfforddiant gyda Chymunedau Digidol Cymru ar gyfer 6 o Gymheiriaid Digidol i gefnogi pobl â heriau iechyd meddwl a oedd wedi’u hallgáu’n ddigidol ar yr adeg hon.
Hafanau staff awyr agored i staff BIP Caerdydd a’r Fro
Gyda chyllid gan NHS Charities Together, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro bellach wedi gallu datblygu prosiect i greu hafanau staff awyr agored yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty’r Barri gyda’r nod o alluogi staff i gael mynediad at amgylchedd awyr agored i orffwys a myfyrio.
Gweithwyr Cymorth Profiad y Claf newydd wedi’u recriwtio yn ystod y pandemig COVID-19
Roedd Tîm Profiad y Claf yn gallu recriwtio mwy o Weithwyr Cymorth Profiad y Claf yn ystod y pandemig COVID-19 i helpu i hwyluso ymweliadau rhithwir, darparu angenrheidiau a rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol â chleifion.
Gall y plant nawr chwarae y tu allan i Feithrinfa Teddy Bear, diolch i gefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi cais yn ddiweddar am arian i helpu Meithrinfa Teddy Bear yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) gyda’u prosiect gardd, sy’n gysylltiedig â symud y gweithgareddau dan do i’r awyr agored.
Gorsafoedd ail-lenwi poteli dŵr yfed wedi’u gosod ar draws 6 lleoliad
Mae gorsafoedd ail-lenwi dŵr bellach ar gael mewn chwech o leoliadau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty’r Barri oedd y ddau leoliad cyntaf i osod y gorsafoedd ail-lenwi ac maent eisoes wedi ail-lenwi dros 25,000 o boteli rhyngddynt!
Gwella’r amgylchedd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth CAMHS
Mae addurniadau, dodrefn ac ategolion newydd wedi’u darparu i CAMHS ar gyfer eu mannau cymunedol a’u hystafelloedd therapi i helpu i hwyluso amgylchedd mwy hamddenol, modern, diogel a chroesawgar i’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u staff.
Gwneud gwahaniaeth i gleifion yn Ysbyty Dewi Sant gyda chyllid ar gyfer prosiect garddio
Gwnaeth Elizabeth Ward, Ysbyty Dewi Sant, gais i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am arian i helpu i brynu dodrefn gardd, sied storio a gazebo ar gyfer eu gardd, a oedd, yn eu barn hwy, â’r potensial i fod yn lle gwych i’w cleifion fynd am awyr iach a threulio amser gyda pherthnasau/ymwelwyr.
Y Tîm Gofal Lliniarol yn derbyn arian i wneud gwahaniaeth i ofal diwedd oes
Drwy’r broses gwneud cais am gronfeydd elusennol Covid-19, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi sawl cais yn ddiweddar gan dîm gofal lliniarol yr ysbyty a ofynnodd am offer i helpu cleifion lliniarol sydd yn yr ysbyty.
Ystafell de wedi’i hadnewyddu yn rhoi lle i ymlacio ar gyfer staff, diolch i gefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Cefnogodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gais am arian gan Uned Fferyllol y Santes Fair a Pheirianneg Glinigol ar gyfer dodrefn newydd i wella eu hardal egwyl/ystafell de nad oedd wedi’i hailaddurno ers iddynt feddiannu’r adeilad 12 mlynedd yn ôl.
Yn falch o gefnogi hawliau plant yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant
Roedd yn bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gefnogi, drwy gyllid COVID-19, animeiddiad a anelir yn benodol at staff hyfforddi ynglŷn â’u rhwymedigaeth gyfreithiol a phroffesiynol i ymgorffori Hawliau Plant yn eu hymarfer. Bydd hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u trin fel unigolion.
Benthyg offer ffisiotherapi i gleifion sydd â chyflyrau niwrolegol
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gyda chefnogaeth NHS Charities Together, wedi dyfarnu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol a Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwrolegol i Gleifion Allanol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i roi offer ymarfer corff i gleifion sydd â chyflyrau niwrolegol.
Cronfeydd i helpu’r rhai y mae Covid-19 wedi effeithio’n andwyol arnynt
Un maes sydd wedi derbyn y cyllid hwn gan NHS Charities Together yw ein Tîm Elan. Mae bydwragedd yn nhîm Elan yn gofalu am fenywod sydd angen cymorth cymdeithasol ychwanegol. Bydd yr arian yn helpu i ddarparu eitemau hanfodol ar gyfer ceiswyr lloches beichiog sy’n aml o gefndiroedd difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol.