Rhoi

Rhoddwyd arian gan NHS Charities Together, drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, i gyflawni cais gan yr Adran Therapi Iaith a Lleferydd i Oedolion i ddarparu nifer o eitemau er mwyn cefnogi lles cleifion a staff yn ystod y Pandemig COVID-19.

Gyda’r adran yn gorfod symud i ardal newydd, gofynnodd y staff am eitemau a fyddai’n sicrhau bod tymheredd ystafelloedd clinig a swyddfeydd staff yn cael ei reoleiddio’n gyfforddus drwy leihau tymereddau eithafol.

Prynwyd eitemau hefyd i lonni’r ystafell glinig i gleifion allanol gan nad oedd ganddi olau naturiol. Crëwyd gwaith celf i ddod â’r tu allan i mewn a chyflwynwyd lamp therapi i greu awyrgylch mwy tawel. Prynwyd amrywiaeth o blanhigion hefyd i greu amgylchedd mwy hamddenol yn yr adran.

Roedd y cyllid hwn yn caniatáu i staff a chleifion gael profiad mwy cyfforddus yn ystod heriau’r Pandemig COVID-19. Mae’r eitemau a brynwyd yn dal i gael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi gan yr Adran Therapi Iaith a Lleferydd i Oedolion heddiw.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.