Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gyda chefnogaeth NHS Charities Together, wedi dyfarnu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Niwro-adfer Cymunedol a Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwroleg i Gleifion Allanol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i roi offer ymarfer corff i gleifion sydd â chyflyrau niwrolegol. Roedd y buddsoddiad hwn mewn offer yn galluogi cleifion i barhau â’u ffisiotherapi gartref, tra bod ardaloedd o’r ysbyty ar gau o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Jill David, Ffisiotherapydd Niwrogyhyrol Arbenigol: ‘Mae nifer o gleifion sydd â chyflyrau niwrolegol yn dibynnu ar ymarfer corff a gweithgarwch rheolaidd i gynnal eu hiechyd a’u lles, yn feddyliol ac yn gorfforol. Heb gymorth y gwasanaethau ffisiotherapi niwrolegol a ddarperir, nid oedd hi’n bosibl i’r cleifion hyn ymarfer corff yn y gymuned nac mewn amgylchedd ysbyty.

“Cafodd cleifion eu hasesu yn rhithwir ond yn aml roedd angen offer arnynt i barhau â’u ffisiotherapi gartref.

“Yn ogystal, roedd yr adran ffisiotherapi yn Ysbyty Athrofaol Cymru a’r canolfannau hamdden sy’n cynnig gwasanaethau cymunedol ar gau a doedd dim opsiynau i unigolion â chyflyrau niwrolegol i ymarfer corff yn ddiogel na chael asesiadau a thriniaeth ffisiotherapi wyneb yn wyneb.”

Diolch i’r cyllid hwn, darparwyd amrywiaeth o offer i dros 35 o gleifion rhwng Hydref 2020 a Mai 2021. Roedd yr offer yn helpu gyda ffisiotherapi amrywiaeth o gyflyrau gwahanol, a oedd yn caniatáu defnydd rheolaidd o feiciau ymarfer corff, pedalau, offer strôc breichiau, bandiau gwrthiant, a llechi Kindle Fire gydag ymarferion wedi’u llwytho’n barod i alluogi’r rhai hynny heb fynediad i’r rhyngrwyd i barhau â’r ymarferion gartref. Darparwyd arweiniad ynghyd â’r offer, a threfnwyd galwadau rhithwir neu dros y ffôn i sicrhau bod yr offer yn cael ei ddefnyddio’n gywir.

Aeth Jill yn ei blaen: “Mae’r canlyniadau yn dangos bod yr offer wedi galluogi unigolion â chyflyrau niwrolegol i barhau â’u ffisiotherapi gartref ac i ymarfer corff yn rheolaidd i leihau dirywiad cyflyrau hirdymor ac i adsefydlu ar ôl i gyflyrau eraill waethygu.

“Roedd ymarfer corff gartref ac apwyntiadau rhithwir yn ddatrysiad dros dro i sicrhau bod gwasanaethau ffisiotherapi yn parhau i gleifion â chyflyrau niwrolegol yn ystod y cyfnod pan nad oedd gwasanaethau cleifion allanol ar gael ac roedd cael yr offer yma yn caniatáu i staff barhau â’n gwasanaeth mewn modd amserol a diogel ar gyfer ein cleifion.”

Fe wnaeth y tîm Ffisiotherapi gasglu adborth ysgrifenedig i ganfod effaith gallu parhau â ffisiotherapi yn y cartref.  Dyma rywfaint o’r adborth a gafwyd gan gleifion:

‘Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu parhau â’r adsefydlu heb gymorth y ffisiotherapydd a’i arweiniad o ran sut i ddefnyddio’r offer’

‘Roedd gwybod bod y ffisiotherapydd wedi’i ddarparu ar fy nghyfer yn rhoi hyder i fi ymarfer corff gartref’

‘Rydw i’n teimlo fy mod i wedi gwanhau a cholli hyder yn ystod y cyfyngiadau symud ond bydd cael y cyfle i ymarfer corff gyda chymorth i wneud fy ymarferion gartref yn gwneud byd o wahaniaeth. Diolch!’

‘Mae benthyg yr offer wedi fy ngalluogi i wireddu manteision ymarfer corff cyson ac rydw i bellach yn gwybod pa offer i brynu fy hun’

Gwnaeth y tîm hefyd anfon arolwg a oedd yn cynnig adborth pellach ynghylch darparu’r offer.

Dywedodd 93% o’r defnyddwyr bod yr offer yn hawdd i’w ddefnyddio, gyda’r 7% arall yn dweud ei fod yn ‘weddol hawdd’.

Dywedodd 71% o’r ymatebwyr eu bod yn hynod debygol o argymell y math yma o driniaeth i gleifion eraill, gyda’r 29% arall dal yn debygol o argymell y gwasanaeth.

Yn gyffredinol, roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol ac yn dangos pa mor fanteisiol mae darparu’r offer wedi bod i gleifion â chyflyrau niwrolegol.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro helpu eich gwasanaeth, ward neu adran ewch i www.healthcharity.wales neu e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.