Rhoi

Yn ystod y pandemig COVID-19, ymgeisiodd staff Hafan y Coed, uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, am gyllid gan NHS Charities Together drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu offer campfa ar gyfer y wardiau.

Roedd staff yn teimlo bod angen yr offer gan nad oedd llawer o gleifion ar y wardiau yn gallu mynd i’r brif gampfa yn sgil rhwystrau iechyd corfforol, difrifoldeb iechyd meddwl amrywiol neu beidio â chael caniatâd i adael y ward oherwydd eu bod wedi’u cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Gydag effaith ychwanegol COVID-19, bu’n rhaid cyfyngu ar weithgarwch yn y gampfa a chafodd wardiau eu gosod mewn carfannau er mwyn atal traws-heintio.

Yn dilyn y cais llwyddiannus am gyllid, gosodwyd beic ymarfer corff unionsyth a beic ymarfer gorweddol ar bob un o’r wardiau triniaeth a’r ward dibyniaeth, a oedd yn rhoi cyfle i’r Gwasanaeth Ffisiotherapi gynnig triniaeth barhaus i gleifion.

Roedd cael y cyfle i ddarparu amrywiaeth o offer (beiciau gogwyddo yn ogystal â beiciau unionsyth) yn caniatáu i unigolion sy’n fwy bregus, neu a allai fod ag anawsterau cydbwyso ac sydd mewn perygl o gwympo, i wella eu lles. Mae’r campfeydd yn y wardiau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu triniaeth sy’n gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol cleifion, a’r gobaith yw y bydd y prosiect yn parhau i esblygu unwaith y bydd y tîm ffisiotherapi wedi’i sefydlu’n llawn, pan fydd modd darparu mwy o gyfleoedd i gleifion gael mynediad at ymarfer corff ar y wardiau.

Dywedodd Ffisiotherapydd Arweiniol y Tîm, Steve Moore, “Roedd cefnogaeth yr Elusen Iechyd yn golygu y gallai’r gwasanaeth ffisiotherapi barhau i roi triniaeth werthfawr a helpu cleifion i sicrhau canlyniadau iechyd gwell. Mae’r gwasanaeth Ffisiotherapi yn hynod ddiolchgar i NHS Charities Together a’r Elusen Iechyd am gefnogi’r cais hwn a chynorthwyo’r gwasanaeth i roi triniaeth barhaus ar adeg lle’r oedd llawer o wasanaethau’n gorfod cyfyngu ar eu mewnbwn. Roedd modd i gleifion ar bob un o’r wardiau gael mynediad at ymarfer corff, a heb yr offer ychwanegol a ariannwyd gan yr Elusen Iechyd, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib.

Mae’r campfeydd yn y wardiau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu triniaeth sy’n gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol cleifion mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.