Rhoi

Rhoddwyd dodrefn newydd i’r Uned Sterileiddio a Diheintio Deintyddol drwy arian gan NHS Charities Together i wella ystafell staff yr uned.

Mae’r Uned Sterileiddio a Diheintio Deintyddol yn darparu gwasanaethau diheintio i wahanol glinigau ac adrannau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a gweithiodd staff gryn dipyn o oriau ychwanegol i ateb y galw yn ystod Pandemig COVID-19. Cyn y cyllid hwn, dim ond un bwrdd a phedair cadair oedd yn yr ystafell staff rhwng y pedwar aelod ar ddeg o staff a oedd yn defnyddio’r ystafell yn ystod amser cinio ac i gael seibiant.

Roedd y cyllid a roddwyd yn caniatáu i ddodrefn newydd gael eu prynu ar gyfer yr ystafell staff gyda digon o le ar gyfer byrddau a chadeiriau i bob aelod o staff. Roedd yr aelodau staff yn gwerthfawrogi’r gwaith adnewyddu’n fawr gan eu bod bellach yn gallu mwynhau eu hegwyliau yn gyfforddus.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.