Rhoi

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ddiolchgar dros ben am y caredigrwydd aruthrol y mae cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi’i brofi. 

Roedd aelodau’r cyhoedd wedi codi arian a chyfrannu at ymgyrch Covid-19 #SpreadTheLove. Mae Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd, Capten Syr Tom Moore, Gareth ac Emma Bale, Aaron Ramsey a Syr Stanley Thomas i gyd wedi cyfrannu’n hael at gronfeydd Covid-19 yr Elusen Iechyd. 

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog ac am y gwahaniaeth y mae’r arian wedi’i wneud er budd cleifion a staff.

Dyma rai enghreifftiau o sut mae cronfeydd Covid-19 wedi cael eu defnyddio i wella pethau i gleifion a staff.

Ailwampio Ystafell Gwasanaeth Therapi Cynnwys a Phecynnau Ymwybyddiaeth Ofalgar

Cafodd y Gwasanaeth Therapi Cynnwys yn Ysbyty’r Eglwys Newydd arian i adnewyddu a gwella’r ddwy ystafell therapi. Mae’r gwasanaeth yn darparu therapi siarad dwys i unigolion sy’n hynod ofidus ac sy’n aml wedi dioddef trawma.

Bydd cynnig lle cyfforddus, croesawgar a newydd i’w ddefnyddio yn ystod y sesiynau yn helpu i wella ymgysylltiad a lles cleifion a staff. Darparwyd pecynnau ymwybyddiaeth ofalgar i’r gwasanaeth hefyd er mwyn gwella creadigrwydd a lles meddyliol staff a chleifion.

DVDs Ffitrwydd Elderfit ac Ymarferion Ysgafn

Talwyd am DVDs Ffitrwydd Elderfit ac Ymarferion Ysgafn i helpu i gael pobl i symud ac er mwyn cynnal cydbwysedd a chryfder cleifion dros 50 oed.

Rhoddwyd y DVDs i gleifion er mwyn iddynt allu ymarfer yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Roedd hyn yn helpu eu symudedd, eu hyblygrwydd a’u lles yn ystod y pandemig, a gobeithio y byddant yn cael eu defnyddio yn y dyfodol hefyd.

Hafan Y Coed; Uned Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl

Darparwyd eitemau therapiwtig a gwnaed gwaith adnewyddu, gan gynnwys offer campfa yn y ward ac ystafell gynadledda yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau, er mwyn helpu i wella gofal cleifion a chael arferion mwy effeithiol a diogel yn y gweithle. Roedd cael yr offer campfa hwn ar y ward yn helpu i wella proses adsefydlu a rheoli tymor hir oedolion sy’n gleifion â chanddynt gyflyrau niwrolegol, yn ogystal â gwella ymgysylltiad staff.

Ardal Gyrru Trwodd ar gyfer yr Uned Dal Anadl Wrth Gysgu a Gweithrediad yr Ysgyfaint

Talwyd am ardal gyrru trwodd ar gyfer y Gwasanaeth Cwsg er mwyn iddynt barhau i weld eu cleifion yn ystod y pandemig. Roedd yr ardal gyrru trwodd yn golygu bod cleifion yn dal i allu casglu eu cyfarpar astudio cwsg yn hytrach na mynd i glinigau dan do, a oedd yn cael eu canslo ar y pryd. Roedd yr arian yn talu am eitemau fel arwyddion, trolïau, cadeiriau a chotiau dal dŵr i staff, a oedd yn gwella’r gwasanaeth ac yn gwella morâl staff.

iPads a Thabledi Cyfathrebu Electronig

Mae gwahanol adrannau o amgylch y Bwrdd Iechyd wedi cael tabledi cyfathrebu electronig er mwyn gwella’r cyfathrebu rhwng cleifion a’u ffrindiau a’u teuluoedd yn ystod y cyfyngiadau ar ymweld. Mae tabledi cyfathrebu electronig yn gysur mawr i gleifion – yn ffordd iddynt siarad, gweld a chadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid yn ystod cyfnod anodd iawn.

Adnoddau ac Adnewyddu’r Ardal i Staff

Mae rhoddion hael gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd a’r arian a gasglwyd gan y Capten Syr Tom Moore wedi talu am adnewyddu a moderneiddio nifer o ystafelloedd i staff ledled y Bwrdd Iechyd, gyda dodrefn newydd, gwell ac eitemau electronig fel tabledi, cadeiriau, oergelloedd a thecelli.

Mae ystafelloedd staff wedi cael eu hadnewyddu yn yr Uned Ddiheintio a Sterileiddio Deintyddol, Gwasanaeth Gwella ac Adsefydlu Cymunedol Phoenix, y Gwasanaeth Maeth a Deiet Cymunedol, yr Adrannau Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Ysbyty Dewi Sant ac Uned Fferyllol y Santes Fair a’r Adran Peirianneg Glinigol.

Mae’n bwysig cael rhywle cyfforddus, braf lle gall staff ymlacio a chael seibiant – er mwyn eu hiechyd a’u lles. Hyd yma, mae’r ystafelloedd sydd wedi cael eu hadnewyddu wedi cael effaith gadarnhaol, a byddant yn helpu i wella gofal cleifion.

Mae’r Elusen Iechyd yn hynod ddiolchgar i’r Capten Syr Tom Moore ac Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd am y rhoddion hyn.

Hafan i Staff Gofal Critigol

Roedd Stagecoach De Cymru wedi rhoi rhodd hael, sydd wedi ein galluogi ni i greu Hafan i Staff yn ein Huned Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dewiswyd ardal yn yr adran Gofal Critigol a defnyddiwyd y rhodd i adnewyddu’r ardal a thalu am ddodrefn newydd ac eitemau trydanol er mwyn i’r staff gael cyfle i ymlacio a gorffwys.

Diolch i Stagecoach De Cymru, bydd yr Hafan i Staff wir yn helpu i wella iechyd a lles staff Gofal Critigol.

Lles Staff

Mae gofalu am iechyd meddwl a lles staff y Bwrdd Iechyd yn bwysicach nag erioed. Er mwyn helpu i ofalu am staff yn ystod y pandemig, darparwyd eitemau i wella a chynnal eu lles corfforol a meddyliol. Roedd y rhain yn cynnwys Canllawiau a Phosteri Adnoddau Lles, pecynnau Meddwl Gweithredol i ddechreuwyr, llyfrau gwaith i gleifion, pecynnau ymwybyddiaeth ofalgar, taflen 12 tudalen ‘Byw a gweithio’n dda ar eich pen eich hun’, prosiect ‘Ysgrifennu yn ystod y Cyfnod Clo’ a nifer o focsys o ddanteithion i staff yn eu hadrannau. Cafodd ein staff rheng flaen a oedd yn gweithio yn eu PPE llawn yn y gwres eithafol, pan oedd y pandemig ar ei anterth, ddiodydd a lolis rhew hefyd.

Prosiect Gardd Meithrinfa Tedi Bêr

Roedd Meithrinfa Tedi Bêr yn darparu gofal plant brys i blant staff y Bwrdd Iechyd yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Cafodd meithrinfa Ysbyty Athrofaol Llandochau arian i osod to uwch ben y decin y tu allan, er mwyn gallu mwynhau’r ardal ym mhob tywydd a chael awyr iach. Mae hyn yn golygu bod yr ardal wedi cael ei defnyddio i sicrhau bod canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn, ac mae’n rhywle arall i’r plant gael dysgu, chwarae a thyfu.

Practis Mynediad at Iechyd Caerdydd

Cafodd Practis Mynediad at Iechyd Caerdydd (CHAPS) arian gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd i helpu’r gymuned bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gael cefnogaeth gan Wasanaeth Ceiswyr Lloches Caerdydd a’r Fro a staff y trydydd sector, fel Wellbeing 4U, sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Bydd y gefnogaeth o fudd mawr i staff a chleifion yn y gwasanaeth, a bydd yn arwain at well gofal i gleifion ac yn gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol.

Offer Mamolaeth ar gyfer Ceiswyr Lloches

Cafodd bydwragedd sy’n arbenigo mewn gofalu am geiswyr lloches arian gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, er mwyn prynu offer fel pympiau ar gyfer y fron, clustogau ar gyfer menywod beichiog a dillad isaf addas i fenywod beichiog, i’w rhoi i fenywod sy’n mynd drwy’r broses o geisio lloches, ac nad ydynt yn gallu gofalu am y rhain eu hunain. Mae’r offer o fudd mawr i’r menywod hyn, gan eu bod yn rhoi cysur a chymorth iddynt, ac mae hynny’n eu helpu i wella eu hiechyd meddwl a’i lles eu hunain yn ystod eu beichiogrwydd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.