Rhoi

Mae cyllid gan NHS Charities Together wedi cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu nifer o eitemau newydd ar draws sawl Adran yn y Bwrdd Iechyd i gyfrannu at brofiad mwy cyfforddus ac effeithlon i gleifion trwy gydol y Pandemig COVID-19.

Lampau Hwyliau sy’n Newid Lliw ar gyfer yr Uned Mamolaeth

Mae prynu pump o lampau hwyliau sy’n newid lliw wedi helpu i wella amgylchedd yr ysbyty yn yr Uned Mamolaeth. Mae’r golau o’r lampau hwyliau yn ychwanegu at greu amgylchedd tawel a digynnwrf i gefnogi genedigaeth naturiol yn ogystal â rhyddhau endorffinau yn naturiol sy’n helpu i brysuro’r geni. Helpodd y lampau hwyliau sy’n newid lliw i roi profiad geni cadarnhaol i fenywod a’u teuluoedd yn ystod cyfnod ansicr.

System Arddweud Fodern Wedi’i Chyflwyno i Ysbyty Plant Arch Noa

Gyda llawer o apwyntiadau’n cael eu cynnal ar-lein yn ystod y Pandemig COVID-19, rhoddwyd system arddweud fodern i Ysbyty Plant Arch Noa er mwyn galluogi i lythyrau cleifion ar ôl apwyntiad a gwybodaeth am nodiadau clinigol gael eu cofnodi a’u hanfon yn electronig i ganiatáu i’r tîm meddygol ymgynghorol a’r tîm gweinyddol ac ysgrifenyddion i weithio o bell, gyda’r gobaith o barhau â’r ffordd effeithlon hon o weithio yn y dyfodol. Cyn derbyn y cyllid, roedd y tîm meddygol yn defnyddio dictaffonau gyda chasetiau, nad oedd yn caniatáu iddynt drosglwyddo’r wybodaeth yn ddigidol, felly mae’r system arddweud newydd yn ffordd o weithio sydd lawer yn fwy hwylus ac effeithlon o ran amser.

Prynu Offer Newydd i Helpu i Roi Diagnosis a Rheoli Asthma

Roedd cyllid gan NHS Charities Together wedi galluogi i brofion FeNO gael eu cyflwyno; dull mwy effeithiol wedi’i deilwra’n well at Asthma ac opsiynau triniaeth i gleifion. Mae mynediad at ddyfais FeNO wedi cael effaith gadarnhaol ar restrau aros tîm Gweithrediad yr Ysgyfaint ac wedi lleihau’r angen i gleifion ddod yn ôl i’r ysbyty ar gyfer y profion hyn, gan alluogi i gleifion ag asthma gael dull o ofalu unigol ac wedi’i deilwra. Mae cleifion sydd ag asthma sy’n anodd ei reoli, y mae angen iddynt fynychu’r clinig asthma, yn debygol o elwa trwy gael gwell rheolaeth pan allwn gael mynediad ar unwaith at brofion gweithrediad yr ysgyfaint pwysig. Mae monitor FeNO yn offeryn cyfleus i’w ddefnyddio yn y clinig anadlol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar reoli asthma yn BIP Caerdydd a’r Fro.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.