Rhoi

Fe wnaeth cyllid gan NHS Charities Together gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i brynu cymhorthion geni ar gyfer yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd yn ystod Pandemig COVID-19.

Roedd yr eitemau a brynwyd yn cynnwys dwy System Geni Multitrac a phum cadair geni, y ddau wedi’u cynllunio i gefnogi ac annog menywod i fod mewn safle unionsyth, symudol wrth roi genedigaeth.

Roedd newidiadau i lwybrau a’r amgylchedd yn ystod Pandemig COVID-19 yn heriol i fenywod a staff gan fod ardaloedd wedi’u haddasu i ymdopi â’r sefyllfa. Roedd rhaid i’r Uned dan Arweiniad Bydwragedd gau am gyfnod byr a dod yn ardal cymorth COVID-19. Cafodd y newidiadau hyn effaith ar forâl staff ac roedd gostyngiad yn nifer y menywod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Teimlai Suzanne Hardacre, a oedd yn Bennaeth Bydwreigiaeth/Nyrs Arweiniol y Gyfarwyddiaeth ar y pryd, y byddai’r offer newydd yn creu amgylchedd croesawgar i gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac yn hybu morâl y staff drwy ddarparu offer iddynt a fyddai’n gwella profiadau eu cleifion.

Gyda diolch i NHS Charities Together, bydd y darnau hyn o offer yn cael eu gwerthfawrogi gan staff a chleifion am flynyddoedd i ddod.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.