Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi ceisiadau am gyllid i Gronfeydd Elusennol Covid-19 yn ddiweddar gan Uned Fferyllol y Santes Fair a Pheirianneg Glinigol am ddodrefn newydd i wella eu hystafell de/ystafell ymlacio.

Nid oedd yr ystafell ymlacio wedi cael ei hailaddurno ers iddynt symud i’r adeilad 12 mlynedd yn ôl. Roedd y defnydd ar y rhan fwyaf o’r cadeiriau wedi gwisgo nes eich bod yn gallu gweld y sbwng, ac roedd y rhan fwyaf o’r dodrefn yn rhai ail-law pan symudodd y staff. Mae’r staff wedi gweithio’n galed iawn yn ystod y pandemig, ac fe aethant ati i gyflwyno cais am arian i’r cronfeydd elusennol. Roeddent yn gobeithio y byddai ailwampio’r ystafell hon yn ei gwneud yn fwy croesawgar, cyfforddus a glân i staff ymlacio. Byddai’n ffordd berffaith o ddiolch i staff a chydnabod eu hymdrechion yn ystod cyfnod mor heriol.

Diolch i’r contractwyr ET&S a fu’n gweithio o dan oruchwyliaeth tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau’r Bwrdd Iechyd, cwblhawyd y gwaith ym mis Chwefror, cyn i’r dodrefn newydd gael eu gosod yno. Fel y gwelwch yn y lluniau, erbyn hyn mae gan y tîm rywle glân ac addas i allu ymlacio yn ystod eu diwrnod gwaith.

Dywedodd Ed Chapman, Dirprwy Bennaeth Peirianneg Glinigol: “Roedd yr ystafell de wedi gweld dyddiau gwell, roedd y waliau a’r lloriau yn fudr ac roedd y dodrefn wedi malu. Nawr, mae wedi cael ei haddurno’n hyfryd gyda dodrefn newydd. Mae’r ystafell yn llawer mwy croesawgar, cyfforddus a glân!

“Mae’r staff yn hapus iawn gyda’r ystafell, ac fe gawsant eu holi cyn i’r gwaith ddechrau, er mwyn iddynt gael rhannu eu safbwyntiau.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut gall yr Elusen Iechyd helpu i wneud gwahaniaeth i chi, ewch i: www.healthcharity.wales or email fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.