Rhoi

O ganlyniad i’r Pandemig COVID-19, addaswyd Gwasanaeth Cwsg Adran Gweithrediad yr Ysgyfaint a Chwsg Ataliol i fod yn wasanaeth gyrru drwodd i leihau nifer y cleifion yn yr ysbyty. Er bod y gwasanaeth gyrru drwodd wedi bod yn llwyddiant ers ei ddyddiau cynnar, roedd bod yn yr awyr agored yn golygu bod staff yn aml yn gorfod gweithio mewn tywydd annymunol. Dywedodd cleifion hefyd ei fod yn anodd dod o hyd i’r clinig.

Er mwyn hwyluso’r ffactorau hyn, gofynnodd yr adran am amrywiaeth o eitemau i’w gwneud yn haws i gleifion ddod o hyd i’r gwasanaeth yn ogystal â chynnal lles staff sy’n gweithio yn y clinig gyrru drwodd.

Rhoddwyd cyllid drwy NHS Charities Together, gyda chefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, i brynu sawl eitem newydd. Ymhlith yr eitemau newydd roedd arwyddion i gyfeirio cleifion i’r clinig, cotiau glaw a chadeiriau plygu i staff eistedd arnynt yn ystod eu hamser egwyl, a throli gyda droriau a oedd yn caniatáu i offer gael eu cludo yn ddiogel i’r gwasanaeth ac oddi yno.

Roedd yr eitemau hyn yn caniatáu profiad llawer mwy cyfforddus i gleifion a staff sy’n defnyddio’r clinig ac wedi cefnogi trosglwyddiad mwy hwylus i’r gwasanaeth hwn ar adeg heriol ac ansicr iawn.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.