Rhoi

Tyfu’n Dda yw’r prosiect rhagnodi cymdeithasol cymunedol blaenllaw yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol De-orllewin Caerdydd. Mae llwybr rhagnodi cymdeithasol y Clwstwr, y mae Tyfu’n Dda wedi’i wreiddio ynddo, yn galluogi meddygon teulu a rhagnodwyr cymdeithasol mewn meddygfeydd a gwasanaethau gwirfoddol ac awdurdod lleol eraill sy’n seiliedig ar iechyd, i gyfeirio cleifion yn ddidrafferth at erddi cymunedol therapiwtig a chroesawgar. Drwy gefnogaeth ein staff medrus iawn, sy’n cyflwyno sesiynau wythnosol ar draws safleoedd, y nod yw cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar iechyd corfforol a meddyliol a lles pobl leol, o ran eu profiad o deimlo’n ynysig a’u gallu i gymdeithasu, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ymylol.

Gydag arian gan NHS Charities Together drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, llwyddodd Tyfu’n Dda i weithredu strategaeth ddwy flynedd i gynyddu capasiti prosiectau i gefnogi mwy o gleifion lleol, ehangu safleoedd yr ardd ymhellach ym Meddygfa Dusty Forge a Lansdowne drwy gaffael tir newydd, datblygu safle gardd gymunedol newydd ar dir Canolfan Iechyd Glan yr Afon, cefnogi cleifion i gynaeafu a choginio eu cynnyrch eu hunain, a chydweithio â’r Ymddiriedolaeth Natur i alluogi cleifion i ddatblygu’r gerddi ymhellach fel hafanau natur. Gwnaed hyn yn bosibl drwy sicrhau’r cyllid i gyflogi Hwyluswyr Prosiect Tyfu’n Dda i gynnal sesiynau wythnosol ar draws tri safle prosiect a gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ac Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) a chleifion i gyd-gynhyrchu offeryn monitro a gwerthuso a fydd yn mesur canlyniadau iechyd a lles i gleifion.

Mae Claire Terry, Therapydd Galwedigaethol, yn disgrifio canlyniad cadarnhaol cyfranogwr a gafodd ei gyfeirio at y prosiect Tyfu’n Dda gan ei feddyg teulu, ar ôl ceisio cymorth gydag iselder.

“Dros amser, rhannodd fwy ohono’i hun gyda ni yn y grŵp, gan rannu syniadau ryseitiau ar gyfer ein cawl gardd, a dod â phwmpen yr oedd wedi’i dyfu i helpu i wneud y cawl. Un wythnos rhannodd gerdd gyda grŵp bach, a ysbrydolwyd gan ei ddiddordeb mewn natur. Roedd yn foment hyfryd iawn, gan fod mynychwr newydd a oedd hefyd yn caru barddoniaeth yno am y tro cyntaf. Ar ôl i’r prosiect compost ddod i ben, ar ôl cydweithio ag ychydig o wahanol aelodau’r grŵp, roedd yn barod i symud ymlaen i brosiect arall. Gweithiodd gyda gwirfoddolwr gwahanol i rannu syniadau a llunio cynllun i wneud gwter i gasglu dŵr o’n twnnel polythen. Unwaith eto, dangosodd ei amynedd a’i sgiliau gwrando, a hefyd ei synnwyr digrifwch da wrth weithio ar y prosiect hwn o wythnos i wythnos.”

Mae canfyddiadau’r prosiect yn dangos yr ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o anghenion poblogaethau, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda chyflyrau corfforol a meddyliol hirdymor. Gall gerddi cymunedol gynnig dulliau ataliol anghlinigol o ragnodi cymdeithasol gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur i hybu iechyd a lles. O ystyried y manteision amrywiol, gellir defnyddio gerddi cymunedol fel asedau seilwaith ar gyfer yr ymyriadau yn y gymuned a’r rhai sydd wedi’u cydleoli mewn gofal sylfaenol, gan gefnogi system gofal iechyd sy’n newid.

Rydym wrth ein bodd bod ein prosiect gyda Tyfu’n Dda wedi cael sylw ar Wal Cyflawniadau NHS Charities Together.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.