Yn ystod y pandemig Covid-19, gwnaeth cyllid gan NHS Charities Together gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i greu swydd ar gyfer Arweinydd Cynhwysiant Digidol yn y Coleg Adfer a Lles am 12 mis.
Cymerwyd y swydd gan Georgia Howard, a oedd yn gallu cefnogi’r coleg i barhau i ddarparu cyrsiau addysgol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Fel rhan o’r rôl, cyflwynodd Georgia systemau a gweithdrefnau symlach a mwy effeithlon a gafodd eu gweithredu a’u defnyddio o fewn y tîm gweinyddu. Roedd hyn yn lleihau llwyth gwaith, yn gwella lles staff ac yn darparu dull mwy hygyrch o gofrestru i fyfyrwyr. Roedd Georgia hefyd yn ymwneud â hyfforddi a gweithredu Cymheiriaid Digidol, sy’n defnyddio eu profiadau personol eu hunain o naill ai heriau iechyd meddwl, neu allgau digidol i gysylltu â myfyrwyr y coleg a’u cefnogi.
Yn y fideo hwn, mae Georgia yn siarad am ei rôl fel Arweinydd Cynhwysiant Digidol a Chymheiriad Digidol a’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau’r coleg i’w myfyrwyr.
Yn ddiweddar, gwnaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gais i NHS Charities Together am estyniad i’r prosiect Hyfforddwr Cymheiriaid y Coleg Adfer, ac maen nhw newydd anfon e-bost atom i ddweud ein bod wedi bod yn llwyddiannus.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o allu ymestyn y cyllid i gefnogi’r rôl hon am 2 flynedd arall fel y gall ei effaith gadarnhaol barhau i gefnogi’r staff a’r myfyrwyr yn y Coleg Adfer a Lles.