Rhoi

Yn dilyn y pwysau eithafol ar ein cydweithwyr yn y GIG dros y 2 flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau ac awgrymiadau gan staff y BIP sydd wedi mynegi’r angen am ardaloedd awyr agored pwrpasol i’w galluogi i gael seibiant o straen eu bywydau gwaith beunyddiol.

Gyda chyllid gan NHS Charities Together (NHSCT), mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro bellach wedi gallu datblygu prosiect i greu hafanau staff awyr agored yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty’r Barri gyda’r nod o alluogi staff i gael mynediad at amgylchedd awyr agored i orffwys a myfyrio.

Y cynnig a gyflwynwyd ar gyfer y broses ymgeisio am Grant Adfer COVID-19 Cam 3 NHSCT oedd darparu gofod dynodedig y tu allan i staff er mwyn cynorthwyo gydag adferiad ar ôl COVID-19. Y gofynion oedd sicrhau fod pob ardal awyr agored yn groesawgar, yn lle llonydd ac yn amlbwrpas gan ddarparu llefydd eistedd a mannau eraill o ddiddordeb megis gwaith celf/cerfluniau, planhigion, coed a synau sy’n tawelu; yn amgylchedd i orffwys a myfyrio. Mae llawer ohonom yn dewis gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd ac felly mae pob ardal yn hyblyg o ran eu defnydd ac yn benodol i safle.

Gan weithio gyda Countrywide, bu Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn goruchwylio’r prosiect hwn hyd at y diwedd gyda’r holl ardaloedd awyr agored bellach yn barod ac eisoes yn cael eu defnyddio. Rydym wrth ein bodd bod yr adborth eisoes wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda staff ar draws ein holl safleoedd, ac wedi’u gosod mewn pryd i staff allu mwynhau rhywfaint o’r haul godidog a gawsom yn ddiweddar.

Wrth symud ymlaen, y weledigaeth yw comisiynu cyfres o waith celf gan artistiaid o Gymru i gyfoethogi’r ardaloedd hyn ymhellach.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, neu unrhyw brosiectau eraill a ariennir gan yr elusen, cysylltwch â’r Elusen Iechyd: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.