Rhoi

Roedd cyllid gan NHS Charities Together wedi ei gwneud hi’n bosibl i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gefnogi Ward Helyg gyda’u cais i ddodrefnu ystafell y gallai staff ei defnyddio i wneud galwadau Skype, pan symudwyd apwyntiadau ar-lein.

Prynwyd pum cadair gyfforddus a bwrdd ar gyfer yr ystafell bwrpasol, a oedd yn caniatáu i staff eistedd mewn lleoliad therapiwtig yn ystod cyfarfodydd rhithwir, gan eu galluogi i barhau â’u gwaith yn cefnogi cleifion i gael eu rhyddhau ac adfer yn y gymuned.

Yn ogystal, prynwyd uned storio ar gyfer y ward i helpu staff i drefnu eiddo hyd at 17 o gleifion a chadw eu heitemau’n ddiogel yn ystod eu harhosiad. Mae’r uned storio newydd yn lleihau’r risg y bydd eitemau sy’n perthyn i glaf yn mynd ar goll ac felly’n atal y teimlad o ofid ymhlith cleifion.

Mae trawsnewid yr ystafell hon wedi chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu i wasanaethau barhau’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19 a darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleifion yn ystod y cyfnod hwn, ac i gleifion presennol a chleifion y dyfodol.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.