Rhoi

Yn ddiweddar mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi cais am gyllid i helpu gwella’r amgylchedd i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a staff yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl ifanc (CAMHS) yn Ysbyty Dewi Sant.

Roedd y cais yn golygu bod gwasanaethau CAMHS yn gallu addurno a rhoi dodrefn ac ategolion newydd yn eu hardaloedd cymunedol a’u hystafelloedd therapi, a hynny gyda help cronfeydd elusennol. Nod y prosiect oedd helpu i greu amgylchedd mwy ymlaciol, modern, diogel a chroesawgar i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth, eu teuluoedd a’r staff.

Flwyddyn yn ôl, gwirfoddolodd grŵp o 12 o bobl ifanc i adolygu’r llety a’r cyfleusterau yng ngwasanaeth CAMHS. Roedd y bobl ifanc yn aelodau o Fwrdd Ieuenctid y Bwrdd Iechyd neu Gyngor Ieuenctid Cyngor Caerdydd. Roedd gan y rhan fwyaf ohonynt brofiad go iawn o wasanaethau CAMHS.

Aeth y grŵp o amgylch y llety a’r cyfleusterau i asesu’r amgylchedd, nodi cyfleoedd ac awgrymu syniadau ar gyfer gwella profiad yr amgylchedd a oedd yn sail i’r cais.

Cyn:

Mae iechyd meddwl a lles emosiynol yn faterion hollbwysig yn natblygiad plant yn eu harddegau. Mae cefnogi pobl ifanc i gynnal iechyd meddwl da yn dod yn her mae’r gymdeithas gyfan yn ei hwynebu. Mae’r unigolion sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau CAMHS yn rhai o’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed, ac yn profi anhawsterau iechyd meddwl difrifol a fydd yn cael effaith ar bob agwedd o’u bywydau.

Yn ystod adeg yn eu bywydau pan maen nhw ar eu mwyaf bregus, mae’n bwysig bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel a chyfforddus i rannu eu profiadau anodd a’r hyn sydd ar eu meddwl. Mae’r cyfnod y maen nhw wedi’i dreulio gyda’r gwasanaeth yn ogystal â’u profiadau yno’n rhan bwysig iawn o’u llwybr i wella.

Mae’r cyfleusterau’n chwarae rhan mor bwysig ym mhrofiad cyffredinol person ifanc yng ngwasanaeth CAMHS. Os nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn eu hamgylchedd, efallai na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu’r materion y maen nhw’n eu profi.

Roedd yr Elusen Iechyd yn falch o gefnogi’r prosiect hwn gan helpu i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, eu teuluoedd a’r staff. Dyma luniau i ddangos y gwelliannau a wnaed i’r amgylchedd.

Ar ôl:

Gweithiodd Katie Simpson, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol Plant a Phobl Ifanc a Lindsay Lowe, Gweinyddiaeth Grŵp Gofal/Rheolwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Pobl Ifanc a Theuluoedd yn agos gyda’r Tîm Elusen Iechyd, Engie a chwmni Poppi Contract Furniture i wneud y gwelliannau hyn, ac rydyn ni’n hynod o falch sut mae’r prosiect wedi gwella ardal Gwasanaeth CAMHS yn arw.

Dywedodd Lindsay “Gallwch weld yn y lluniau cyn y gwelliannau ac ar ôl gorffen y gwelliannau; mae’r ystafell aros a’r ystafelloedd clinig yng ngwasanaeth CAMHS wedi gweld gwelliannau dramatig, diolch i’r gefnogaeth gan yr Elusen Iechyd. 

“Doedd yr eitemau dodrefnu blaenorol ddim yn darparu amgylchedd ymlaciol, cyfforddus a diogel i ddefnyddwyr y gwasanaeth na’u teuluoedd. Mae hyn yn elfen bwysig o’r gofal sydd ei angen. Mae’r profiad cyffredinol yn ein gwasanaeth yn rhan bwysig iawn o’r llwybr i wella, ac os nad ydy defnyddwyr y gwasanaeth yn teimlo’m gyfforddus yn eu hamgylchedd, efallai na fyddent yn teimlo’n gyfforddus i rannu’r materion y maen nhw’n eu profi.

“Mae’r dodrefn newydd, y waliau sydd wedi cael eu peintio a’r planhigion bellach yn rhoi ymdeimlad ymlaciol / modern sy’n fwy apelgar a pherthnasol i oedran defnyddwyr y gwasanaeth. Mae hyn wedi cael ei fynegi yn yr adborth anhygoel a gafwyd. Mae staff hefyd wrth eu bodd gyda’r hystafelloedd clinig ar eu newydd wedd.

“Hoffem ddiolch i’r Elusen Iechyd a phawb sydd wedi ein cefnogi a’n helpu i gyflawni’r trawsnewid anhygoel hwn.”

Mae’r Elusen Iechyd hefyd wedi ariannu gorsaf ddŵr newydd a fydd yn cael ei roi yn ardal CAMHS yn ddiweddarach y mis hwn, ac yna bydd y prosiect wedi’i gwblhau.

I ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut gallai’r Elusen Iechyd helpu i wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi ewch i: www.healthcharity.wales or email fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.