Rhoi

Yn ddiweddar mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cefnogi sefydliad Phoenix Community drwy roi dodrefn newydd yn eu hystafell staff o Gyllid Covid-19, gan helpu i wneud amgylchedd gweithio gwell i staff.

Uned adsefydlu iechyd meddwl oedolion yng Nghaerdydd yw Phoenix Community. Ar gyfartaledd bydd cleifion yn aros yno rhwng 12 a 24 mis.

Mae’r staff yn Phoenix Community yn rhoi gofal nyrsio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, gan helpu cleifion gyda phethau ymarferol fel siopa, coginio a rheoli arian.

Mae staff Phoenix Community yn helpu cleifion i ddysgu neu adennill sgiliau mewn amgylchedd diogel ac anogol lle maent yn cael eu cefnogi i wynebu heriau, teimlo’n ddigon diogel i beidio bod ofn gwneud camgymeriadau a dysgu o’r profiadau hyn. Mae staff wrth law i fonitro ac asesu cynnydd a bod yn fodelau rôl.

Dywedodd Owen Baglow, Dirprwy Reolwr Ward yn Phoenix Community: “Ar ran yr holl staff yn Phoenix Community, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r staff codi arian yn y swyddfa Elusennol am wneud yr ystafell staff yn bosibl. Mae’r lle ar wahân a gafodd ei ariannu gan yr Elusen Iechyd o gyllid Covid-19 wedi bod yn werthfawr iawn o ran gwella ysbryd a lles staff yn y gweithle.”

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am sut gall yr Elusen Iechyd helpu i wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi ewch i: www.healthcharity.wales neu anfonwch neges e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.