Rhoi

Gyda chyllid gan NHS Charities Together, llwyddodd Tîm Profiad y Claf i recriwtio mwy o Weithwyr Cymorth Profiad y Claf yn ystod y pandemig COVID-19 i helpu i hwyluso ymweliadau rhithwir trwy ddyfeisiau clyfar, gan ddarparu pethau angenrheidiol fel pyjamas a dillad, cyfeillio cyffredinol a rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol â chleifion yn rheolaidd ac mewn ffordd ddibynadwy, a helpu gyda gofal personol lle bo angen.

Elfen allweddol o rôl y gweithiwr newydd oedd helpu i weithredu’r prosiect Ymweld Rhithwir, er mwyn caniatáu i’r cleifion gyfathrebu â ffrindiau ac aelodau o’r teulu gartref trwy Zoom ar un o 400 o lechi’r tîm.

Dywedodd aelod o deulu claf a ddefnyddiodd y Cynllun Ymweld Rhithwir:

“Roedd fy mam 88 oed yn yr ysbyty yn ddiweddar (gartref nawr diolch byth) ac nid oes ganddi ffôn symudol na llechen. Cefais alwad gan Weithiwr Cymorth o Dîm Profiad y Claf a esboniodd am y cynllun llechi yn yr ysbyty. Roedd wedi siarad â mam ac eisiau trefnu galwad fideo gyda mi. Gan nad yw fy chwaer sy’n byw yn Llundain wedi gweld mam ers diwedd mis Chwefror pan ymwelodd ddiwethaf, gofynnais iddynt gysylltu â hi yn lle hynny a threfnodd yr alwad ar gyfer y prynhawn nesaf. Roedd mam wrth ei bodd!”

Roedd llawer o’r gweithwyr newydd yn Fyfyrwyr Nyrsio a Myfyrwyr Meddygol a oedd yn gallu ymgymryd â’r rôl fel rhan o leoliad gwaith â thâl a drefnwyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Crynhodd un myfyriwr ei brofiad yn y rôl:

“Roeddem yn nerfus i ddechrau am yr amgylchedd newydd a’n rôl newydd ond gwnaethom ymlacio’n gyflym diolch i gynhesrwydd yr holl staff. Rydym yn gobeithio ein bod wedi cyfrannu rhywbeth yn ystod y cyfnod anodd hwn i’r GIG. Hefyd, rydym yn bersonol wedi ennill llawer o brofiad i symud ymlaen i weddill ein gyrfaoedd. Byddwn yn colli gweithio gyda phob un ohonoch a helpu i ofalu am y cleifion tymor hwy. Gobeithio y bydd ein llwybrau’n croesi eto rywbryd wrth i ni symud ymlaen trwy ein hyfforddiant a chymhwyso yn y pen draw!”

Siaradodd aelod o staff sy’n gweithio ar ward Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gadarnhaol am effaith y Gweithwyr Cymorth Profiad y Claf newydd:

“Rydyn ni i gyd wedi teimlo straen COVID-19 gyda’r holl newidiadau a brofwyd ac maent wedi codi calonnau ac wedi darparu sefydlogrwydd gyda’u hymweliadau. Treulion nhw un diwrnod yn ysbyty Calon y Ddraig ac roedd staff yn holi ble roedden nhw. Rwy’n credu bod eu presenoldeb hefyd wedi lleihau llwyth gwaith y staff nyrsio.”

Mae’n amlwg bod y Gweithwyr Cymorth Profiad y Claf newydd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan staff ward, cleifion a theuluoedd y rhai mewn ysbytai yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Tîm Profiad y Claf yn parhau i wneud eu gwaith anhygoel mewn safleoedd ysbytai ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.