Rhoi

Gyda chymorth cyllid Covid-19, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi animeiddiad wedi’i anelu’n benodol at hyfforddi staff ynghylch eu rhwymedigaethau cyfreithiol a phroffesiynol o ran cynnwys Hawliau Plant yn eu hymarfer. Bydd hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ac yn cael eu trin fel unigolion.

Mae hyfforddiant ar Hawliau Plant wedi cael ei roi ar waith ar draws y Bwrdd Iechyd mewn ymateb i addewid a wnaed gan y Bwrdd Iechyd i Gomisiynydd Plant Cymru.

Fe wnaeth Lisa Cordery, Nyrs Cymunedol Arbenigol Iechyd Cyhoeddus gais am y cyllid hwn ar ran y Bwrdd Ieuenctid. Dywedodd Lisa; “Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd Covid, a’u hiechyd meddwl wedi dioddef yn sgil y pandemig.

“Mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y plant sy’n ofalwyr ar gyfer aelodau o’r teulu o ganlyniad i Covid. Yn wir, bydd plant a phobl ifanc yn ceisio cael mynediad at wasanaethau iechyd nawr yn fwy nag erioed, ac mae angen i staff wybod beth yw eu rhwymedigaethau cyfreithiol a phroffesiynol o ran cynnwys Hawliau Plant yn eu hymarfer i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin fel y dylen nhw gael eu trin.

“Er bod gennym Fwrdd Ieuenctid gweithgar, nid yw’n ymarferol disgwyl i blant a phobl ifanc helpu i gyflwyno pob sesiwn hyfforddi i’n staff. Awgrymodd y Bwrdd Ieuenctid y gellid defnyddio animeiddiad byr sy’n cynnwys eu cyfraniad a’u lleisiau nhw. Byddai hyn yn ffordd o gyflwyno’r prif negeseuon ynghylch Hawliau Plant i staff mewn ffordd ystyrlon.

“Mae’r animeiddiad newydd yn edrych ar lais coll plant a phobl ifanc eu hunain.”

Cafodd yr animeiddiad ei greu mewn partneriaeth gyda Promo Cymru, mudiad gwybodaeth ddigidol ieuenctid sydd wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn y gorffennol. Roedd pobl ifanc yn rhan o bob cam o’r holl broses er mwyn creu cynhyrchiad a oedd wir yn canolbwyntio ar bobl ifanc, ac yn cael ei rannu ar draws amrywiaeth eang o gyfryngau digidol.

I gael gwybod sut y gallwch gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ewch i: www.healthcharity.wales

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.