Rhoi

Gwnaeth y Cydlynydd Gweithgareddau, Natalie McCulloch gais am arian drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gyflwyno amrywiaeth o eitemau gofal a gweithgaredd i wella lles cleifion ar ward Dwyrain 8 a wardiau ychwanegol yn ystod y pandemig Covid-19. Drwy arian gan NHS Charities Together, llwyddodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i roi nifer o eitemau newydd i nifer o wardiau, y mae llawer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw nawr.

Roedd rhai o’r eitemau gweithgaredd a roddwyd i’r adran yn cynnwys, deunyddiau celf a chrefft, chwyddwydrau a pheli straen. Roedd yr eitemau hyn yn caniatáu i gleifion fwynhau gweithgareddau diddorol a lleihau rhai o’r pryderon a deimlwyd ar y pryd.

Rhoddwyd papurau newydd i rai wardiau hefyd, ac roedd y cleifion wrth eu bodd yn eu darllen. Canfu’r staff fod y papurau newydd yn helpu i annog sgwrs rhwng cleifion a staff gan roi pwrpas ystyrlon, yn ogystal ag atgoffa cleifion o’r adeg o’r flwyddyn a’r dydd. Roedd rhai cleifion hyd yn oed yn cymryd rhan mewn pos croesair gan gadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd!

Dosbarthwyd cynhyrchion gofal ewinedd hefyd i wardiau lluosog i wella hylendid ewinedd cleifion. Roedd llawer o gleifion hefyd yn mwynhau’r profiad o gael eu hewinedd wedi’u trin a sgwrsio’n unigol â’r aelod o staff a oedd yn darparu’r gofal.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gefnogi Natalie drwy gyflwyno’r eitemau hyn a chydnabod y cyfraniad y mae wedi’i wneud i gefnogi iechyd a lles cleifion.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.