Rhoi

Yn ddiweddar, ariannodd Apêl Prop y gwaith o gomisiynu darn celf ar gyfer yr ystafell ddydd yn Ward 10 y Gorllewin, i gefnogi cleifion adsefydlu wedi anaf i’r ymennydd.

Crëwyd y paentiad gan yr artist lleol Laura Field, a chafodd ei gyd-gynhyrchu gyda chleifion ar y ward, a roddodd eu hadborth am y themâu yr oeddent am eu gweld yn y gwaith celf. Gofynasant am ddelweddaeth liwgar, seiliedig ar natur, sy’n cynrychioli taith, ac sy’n symbol o’u taith i adferiad. Roedd y cleifion hefyd yn dymuno i’r darn gynnwys enfys, arwydd o obaith, cariad a chyfeillgarwch.

Mae Laura Field yn wyres i’r diweddar Jan Davies a fu farw yn 2022 ar ôl derbyn gofal ar Ward 10 y Gorllewin. Yn flaenorol, gwnaeth rhoddion er cof am Jan ariannu print finyl a osodwyd yn y Ganolfan Niwroadsefydlu, yn dangos coeden wedi’i gwneud o galonnau lliwgar, ac yn cynnwys y dyfyniad: “mae teulu o wreiddiau cryf yn tyfu dail hardd”. Gwnaethpwyd paentiad dôl Laura ar gyfer ardal wahanol, ond mae’n dal i fod yn arwyddocaol ac mae ganddi gysylltiad twymgalon â’r ward.

Mae’r gerdd isod wedi’i gosod ochr yn ochr â’r paentiad:

Beautiful flowers from red to blue

But nothing is as powerful as the path taken by me and you.

Under the trees and through the hills

We are supported by nature and the strength of your wills.

Keep moving and we will see the power of the sky

In a colourful array beaming into our eye.

Beautiful flowers from red to blue

But nothing is as powerful as the path taken by me and you.

  • Laura Mansfield, Rhagfyr 2023. 

Dywedodd aelod o staff Ward 10 y Gorllewin: “Diolch yn fawr iawn i Laura Field am greu’r paentiad a’r gerdd hyfryd hon ar gyfer yr ystafell ddydd Niwroadefydlu. Mae’r darn hwn yn arbennig gan ei fod yn ddarn pwrpasol wedi’i ddylunio o adborth gan grŵp ffocws o bobl sydd wedi profi anaf i’r ymennydd. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan gleifion a staff, sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y paentiad hwn.”

Roedd Apêl Prop yn falch iawn o gefnogi’r gwaith o gomisiynu a gosod y gwaith celf, gan ei fod wedi’i greu gyda chleifion mewn golwg, a bydd yn parhau i godi calon pawb yn Ward 10 y Gorllewin. Diolch o galon i Laura Field am greu’r paentiad hardd, a sicrhau bod adborth cleifion yn cael ei gynrychioli drwy gydol y darn.

Os hoffech gefnogi prosiectau fel yr un hwn i wella bywydau pobl sy’n byw gydag anafiadau i’r ymennydd, rhowch gyfraniad i Apêl Prop.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.