Mae'r rhan fwyaf o'n cronfeydd yn cefnogi un ward neu un adran benodol, heblaw am ein Cronfa ar gyfer Gwella.
Bydd pobl sy'n cyfrannu at y Gronfa ar gyfer Gwella yn cefnogi prosiectau nad ydyn nhw'n cyd-fynd yn dwt â'n cronfeydd penodol – mae'n bosibl y byddant yn helpu mwy nag un ward, mwy nag un safle ysbyty, neu fod yn brosiectau peilot a all chwyldroi ein gwasanaethau yn gyfan gwbl.


Mae enghreifftiau yn cynnwys cyflenwi Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau; cyflenwi galwyr apwyntiadau er mwyn i bobl allu defnyddio eu hamser i fynd i gael paned yn hytrach nag aros yn yr ystafell i gleifion allanol; sicrhau bod gweithgareddau sy’n addas ar gyfer pobl â dementia ar gael yn ystafelloedd dydd pob un o’n wardiau.
Yr hyn sy’n gyffredin i bob un o’r rhain yw bod ein staff wedi nodi eu bod yn brosiectau a allai Wella pethau i bawb sy’n treulio amser mewn ysbytai a chanolfannau iechyd. Felly cadwch lygad allan am sticeri Cronfa ar gyfer Gwella, sy’n dangos pa gyfarpar sydd wedi cael ei brynu ag arian o’r gronfa, y tro nesaf y byddwch yn ymweld â ni!