Rhoi mewn Ewyllys

Bob blwyddyn, mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn cefnogi ein gwaith ac yn ein helpu i wneud byd o wahaniaeth i’r cleifion sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae rhoi drwy ewyllys, boed hynny’n ganran o’ch ystad, yn swm penodol, yn gyfranddaliadau neu’n eitem werthfawr, yn ffordd hael o helpu i wneud gwahaniaeth i ofal cleifion.

Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, hoffem ofyn i chi ystyried gadael rhodd i’r Elusen Iechyd yn eich Ewyllys, er mwyn i ni allu creu gwaddol parhaol gyda’n gilydd.

Beth yw gwaddol?

Mae gwaddol yn golygu unrhyw rodd (arian neu ased) sy’n cael ei adael gan rywun yn ei Ewyllys; cyfarwyddyd i roi rhan o’ch ystad i unigolyn neu sefydliad ar ôl i chi farw.

Pam gadael rhodd yn fy Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro?

Mae’r GIG ar gael ar alw i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bawb yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac mae’n cael ei gyllideb gan y llywodraeth leol.

Mae’r Elusen Iechyd yn cefnogi’r GIG drwy ddarparu eitemau ychwanegol a gwella gwasanaethau, sydd yn ychwanegol at yr hyn y mae cyllid y GIG yn ei ganiatáu. Bydd rhodd fach neu fawr yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion a’n staff ar draws y sefydliad. Pan fyddwch wedi gofalu am y bobl sy’n annwyl i chi, gallai rhodd yn eich Ewyllys ein helpu ni mewn cynifer o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

Beth fydd yn digwydd i fy arian os byddaf yn gadael rhodd yn fy Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro?

Yn aml iawn, pan fydd rhoddwyr yn cofio amdanom ni yn eu Hewyllysiau, maent yn rhoi rhodd gyffredinol, er mwyn i’n staff clinigol benderfynu ar y lle gorau i’w wario; mae eraill yn rhoi i wasanaeth o’u dewis, naill ai gwasanaeth maent hwy neu eu teulu neu ffrindiau wedi cael profiad personol ohono. Beth bynnag fo’ch dewis personol, gan fod yr Elusen Iechyd yn rheoli cronfeydd elusennol ar ran y Bwrdd Iechyd, rydym yn gallu gwrando arnoch a chefnogi eich dymuniadau.

Roedd teulu’r Woods yn dymuno helpu i wella cyfleusterau i fyfyrwyr meddygol. Roedd gadael rhodd i’r Bwrdd Iechyd yn eu Hewyllys yn golygu bod y teulu wedi talu am Ystafell Sgiliau Addysg Feddygol newydd a phwrpasol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r ystafell newydd hon yn helpu i roi’r sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd doctoriaid a nyrsys y dyfodol a hynny mewn amgylchedd diogel.

Roedd rhodd hael o £90,000 mewn Ewyllys wedi helpu i dalu am ‘Ein Berllan – Our Orchard’ yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL).

Mae Ein Berllan – Our Orchard yn brosiect awyr agored unigryw sydd wedi’i greu i gynnig lle arbennig i gleifion, staff ac ymwelwyr wella, adsefydlu ac ymlacio.

Mae’n cynnwys ardaloedd lled-naturiol lle mae planhigion a bywyd gwyllt yn cael eu diogelu, llawer o flodau gwylltion a noddfa i wenyn. Hefyd, mae cyfle i chi Ddewis Coeden er cof – cyfle unigryw i chi gofio am rywun annwyl i chi, rhywle y gallwch chi ddod dro ar ôl tro i gael cysur.

Y weledigaeth ar gyfer Ein Berllan – Our Orchard yw creu lle unigryw a fydd yn waddol am genedlaethau i ddod. Nid yw arian y GIG yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn. Mae’r holl arian wedi dod i law drwy roddion i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Gadael rhodd yn eich Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – y Camau Nesaf

  • Ffoniwch ni i drafod beth hoffech ei wneud, ar 029 218 36042
  • Anfonwch e-bost atom yn fundraising.cav@wales.nhs.uk
  • Ewch i’n gwefan: healthcharity.wales

Gallwch lwytho copi o’n llyfryn i lawr sy’n trafod gadael rhodd yn eich Ewyllys. Yn Gymraeg

Diolch am ystyried cefnogi gwasanaethau gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer y genhedlaeth nesaf drwy roi rhodd yn eich Ewyllys. Bydd eich rhodd garedig yn caniatáu i ni barhau gyda’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud i helpu cleifion, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, am genedlaethau i ddod.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yno i chi ac i’ch anwyliaid, pryd bynnag y byddwch angen ac yn ystod pob cam o’ch bywyd.