Rhoi

Mae Calfyn Jones, claf blaenorol ar Ward T4 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi rhoi cyfraniad hynod garedig o £4,500.00 yn ddiweddar i ddiolch i’r staff a ofalodd amdano yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty.

Yn ôl ym mis Chwefror 2022, cafodd Calfyn anaf difrifol i’w ben yn dilyn damwain ar feic cwad. Ar ôl y gofal rhagorol a dderbyniodd yn Ward Gofal Critigol T4 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae Calfyn wedi gwella’n llwyr ac mae bellach yn ôl yn y gwaith.

I ddiolch i’r aelodau staff gwych ar Ward T4, ac i’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr a lwyddodd i’w symud i’r ysbyty ar ôl y ddamwain, trefnodd Calfyn daith tractor yn ei bentref lleol, gan godi swm anhygoel o £9,000!

Mae’r arian a godwyd wedi’i roi a’i rannu’n gyfartal rhwng Ward T4 a’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr. Yn ddiweddar, cyfarfu Calfyn ac Anwen (mam Calfyn) ag aelodau staff y ward i gyflwyno’r siec a diolch am eu gwaith caled.

Dywedodd Helen Bennett, Rheolwr Ward T4: “Bydd caredigrwydd eithriadol Calfyn yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar gleifion y dyfodol yma ar Ward Niwro T4. Rydym yn bwriadu defnyddio’r arian i adnewyddu ystafell dawel cleifion/perthnasau a darparu teledu i’n cleifion ei ddefnyddio a’i fwynhau fel rhan o’u hadferiad yma.

Rydym mor hapus bod Calfyn wedi gwella mor dda ar ôl ei ddamwain a byddwn yn ddiolchgar am byth am ei waith codi arian a’i gyfraniad i T4.”

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Calfyn am ei ymdrech anhygoel a’r rhodd hael, rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.

I gyfrannu at y Gronfa ar gyfer Gwella, sy’n cefnogi’r holl gleifion, staff ac ymwelwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cliciwch yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.